Mae sgamiau'n gallu bod yn soffistigedig, ond os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod e. Dysgwch sut i adnabod yr arwyddion rhybudd a sut mae gwirio bod cyswllt yn ddilys.
A woman examines some paperwork.
A woman examines some paperwork.
On this page
Adnabod yr arwyddion rhybudd
Mae sgamiau'n gallu bod yn anodd eu hadnabod. Gall twyllwyr fod yn argyhoeddiadol ac yn wybodus, gyda gwefannau a deunyddiau sy'n edrych yn union yr un fath â'r peth go iawn.
Ond os oes rhywun wedi cysylltu â chi'n annisgwyl, neu os ydych yn amheus am alwad neu neges destun, gwnewch yn siŵr eich bod yn stopio ac yn gwirio’r arwyddion rhybudd.
- Ydy e'n annisgwyl? Mae sgamwyr yn aml yn ffonio heb rybudd. Mae’n bosib y byddant hefyd yn ceisio cysylltu â chi drwy e-bost, neges destun, post, cyfryngau cymdeithasol, neu hyd yn oed wyneb yn wyneb.
- Ydych chi'n teimlo dan bwysau i weithredu'n gyflym? Mae’n bosib y bydd sgamwyr yn cynnig bonws neu ostyngiad i chi os byddwch yn buddsoddi'n gyflym, neu efallai y byddan nhw'n dweud bod y cyfle ond ar gael am gyfnod byr.
- Ydy'r cynnig yn swnio'n rhy dda i fod yn wir? Mae twyllwyr yn aml yn addo gwobrau sy’n demtasiwn, fel enillion uchel ar fuddsoddiad.
- Ydy'r cynnig i chi yn unig? Efallai y bydd sgamwyr yn honni eich bod wedi cael eich dewis yn arbennig ar gyfer cyfle buddsoddi, ac y dylid ei gadw'n gyfrinach.
- Ydyn nhw'n ceisio eich seboni? Mae sgamwyr yn aml yn ceisio meithrin cyfeillgarwch gyda chi i wneud i chi deimlo’n gartrefol.
- Ydych chi'n teimlo'n bryderus neu'n gyffrous? Efallai y bydd twyllwyr yn ceisio dylanwadu ar eich emosiynau i'ch cael chi i weithredu.
- Ydyn nhw'n siarad ag awdurdod? Gallai sgamwyr honni eu bod wedi'u hawdurdodi ac yn aml yn ymddangos yn wybodus am gynhyrchion ariannol.
Os ateboch chi 'ie' i unrhyw un o'r cwestiynau hyn, neu os nad ydych yn siŵr a yw cyswllt yn ddilys, dilynwch y camau isod i ddiogelu eich hun.
Gwirio'r cwmni neu'r unigolyn
-
1
Gwiriwch a yw'r cwmni neu'r unigolyn wedi'i awdurdodi
Rhaid i bron bob cwmni gwasanaethau ariannol yn y DU gael eu hawdurdodi neu gofrestru gennym ni. I gael gwybod a yw cwmni neu unigolyn wedi'i awdurdodi, gallwch wirio ein Cofrestr Gwasanaethau Ariannol:
Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn defnyddio cyfeiriad y wefan uchod i ymweld â'r Gofrestr FS. Peidiwch byth â chlicio ar ddolenni mewn e-bost neu ar wefannau'r cwmni. Gallai fod yn rhan o'r sgam.
Gwiriwch fod rhif cyfeirnod y cwmni (FRN) a’r manylion cyswllt rydych chi wedi'u cael yn cyd-fynd â'r manylion ar y Gofrestr FS.
Os nad oes unrhyw fanylion cyswllt wedi'u rhestru ar y Gofrestr FS, neu os yw'r cwmni'n dweud eu bod wedi dyddio, ffoniwch ein Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0800 111 6768.
Cofiwch, mae rhai cwmnïau’n esgus bod yn gwmnïau awdurdodedig[2], felly defnyddiwch y manylion cyswllt ar y Gofrestr FS bob amser.
-
2
Cysylltu â ni
Os ydych chi'n cael trafferth gwirio manylion cwmni ariannol neu unigolyn, cysylltwch[3] â'n Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0800 111 6768.
Gall ein tîm wirio'r manylion rydych chi wedi'u cael a dweud wrthych a yw'r cwmni'n ddilys.
Sut i ddiogelu eich hun
Gyda throseddwyr yn defnyddio technegau niferus i dargedu pobl, gall fod yn hawdd dioddef sgam. Ond mae yna ambell beth y gallwch chi ei wneud i geisio ei osgoi.
Cofiwch:
- drin pob galwad, e-bost a neges destun annisgwyl yn ofalus. Peidiwch â chymryd yn ganiataol eu bod yn ddilys, hyd yn oed os yw'r person yn gwybod rhywfaint o wybodaeth sylfaenol amdanoch chi
- rhoi’r ffôn i lawr ar alwadau ac anwybyddu negeseuon os ydych yn teimlo dan bwysau i weithredu'n gyflym. Ni fydd gwahaniaeth gan fanc neu fusnes go iawn aros os ydych chi eisiau amser i feddwl
- gwirio eich cyfrif banc a’ch datganiadau cerdyn credyd yn rheolaidd
- ystyried cael cyngor neu gyfarwyddyd ariannol annibynnol cyn gwneud penderfyniad ariannol mawr (mae gan MoneyHelper wybodaeth ar sut i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol)
- gwirio rheoleiddwyr tramor os ydych yn delio â chwmni tramor (dylech hefyd wirio'r rhestr o rybuddion sgam gan reoleiddwyr tramor)
Peidiwch â:
- rhoi manylion eich cyfrif banc neu'ch cerdyn credyd oni bai eich bod yn sicr pwy rydych yn delio â nhw
- rhannu eich cyfrineiriau ag unrhyw un (gan gynnwys eich cyfrineiriau cyfryngau cymdeithasol)
- rhoi mynediad i'ch dyfais drwy lawrlwytho meddalwedd neu ap o ffynhonnell nad ydych yn ymddiried ynddi. Efallai y bydd sgamwyr yn gallu cymryd rheolaeth o'ch dyfais a chael mynediad i'ch cyfrif banc
Beth i'w wneud os ydych chi wedi cael eich sgamio
Rhowch wybod amdano
Os ydych yn poeni am sgam posib neu os ydych yn credu y gallai twyllwr fod wedi cysylltu â chi, rhowch wybod i ni. Gallai hyn helpu i atal eraill rhag dioddef yr un drosedd.
Cysylltwch â’n Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0800 111 6768 neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt[3].
Ar gyfer unrhyw beth nad ydym yn ei reoleiddio, neu os ydych wedi colli arian i sgam, cysylltwch ag Action Fraud ar 0300 123 2040 neu drwy eu gwefan[11].
Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau'r dyfodol
Mae'n bwysig bod yn hynod ofalus os ydych chi eisoes wedi cael eich sgamio. Gallai twyllwyr geisio eich targedu chi eto, neu efallai y byddan nhw'n gwerthu'ch manylion i droseddwyr eraill.
Gallai'r sgam newydd fod yn hollol wahanol, neu gallai fod yn gysylltiedig â'r sgam blaenorol. Er enghraifft, gellid cysylltu â chi gyda chynnig i gael eich arian yn ôl neu i brynu buddsoddiad yn ôl ar ôl i chi dalu ffi. Mae'r rhain yn cael eu galw'n sgamiau ystafell adfer[12].
Os oes gennych chi unrhyw bryderon o gwbl am dwyll ariannol posib, cysylltwch â ni ar unwaith.