Mae twyllwyr weithiau'n esgus gweithio i ni, felly mae'n bwysig gwirio os ydych chi'n ansicr. Dysgwch sut i adnabod negeseuon e-bost, galwadau ffôn, a gwefannau FCA ffug.
Bydd sgamwyr yn rhoi cynnig ar unrhyw beth i'ch cael chi i drosglwyddo gwybodaeth bersonol bwysig, efallai y byddan nhw hyd yn oed yn dweud eu bod yn gweithio i ni.
Efallai y cewch e-bost, llythyr neu alwad ffôn gan rywun sy'n honni ei fod o'r FCA. Mae’n bosib y byddant yn defnyddio enw gweithiwr, ein logo, neu ddelweddau eraill o'n gwefan, i wneud i chi feddwl bod yr ohebiaeth yn ddilys.
Mae’n bosib y byddant hefyd yn honni eu bod o’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA), y sefydliad a oedd yn arfer rheoleiddio gwasanaethau ariannol yn y Deyrnas Unedig.
Pryd y gallwn ni gysylltu â chi
Ar adegau prin, efallai y byddwn yn eich ffonio os ydym yn credu y gallwch helpu mewn ymchwiliad.
Ar yr achlysuron hyn, efallai y byddwn yn gofyn i chi am rai manylion personol, gan gynnwys eich manylion cyswllt. Ond os ydych chi'n poeni am bwy rydych chi'n siarad â nhw, cysylltwch â'n Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr[1]. Fydd dim ots gan ein tîm aros i chi wirio.
Sut mae gohebiaeth FCA ffug yn gweithio
Gall sgamwyr ofyn i chi am wybodaeth bersonol, fel copïau o'ch slipiau cyflog neu basport, manylion cyfrif banc neu gyfrineiriau bancio ar-lein.
Mae’n bosib y byddant yn honni:
- bod arnoch chi arian i ni
- bod gennych hawl i arian, a bod angen manylion eich cyfrif banc arnom i wneud y taliad
- ein bod yn ymchwilio i'ch banc neu ddarparwr arall, a’n bod angen i chi symud eich arian i gyfrif arall am resymau diogelwch
Mae'n bwysig cofio na fydden ni byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian i ni. Ni fyddem ’chwaith byth yn gofyn am wybodaeth bancio sensitif, fel PINs a chyfrineiriau cyfrifon banc.
Sut i adnabod gohebiaeth FCA ffug
Chwiliwch am arwyddion efallai nad yw'r e-bost, y llythyr neu’r alwad ffôn gennym ni.
- Gallai galwadau ffôn fod o rif symudol neu dramor.
- Gallai cyfeiriad e-bost fod o gyfrif Hotmail, Outlook neu Gmail.
- Gallai gohebiaeth gynnwys camgymeriadau sillafu a gramadeg gwael.
- Gallai cyfeiriadau gwefannau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol gynnwys newidiadau mân iawn neu atalnodi ychwanegol.
Ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn defnyddio nifer o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth gyda chwmnïau ac unigolion. Ond gall sgamwyr greu cyfrifon sy'n edrych yn debyg iawn i'n cyfrifon ni.
Dyma ein cyfrifon dilys:
- Facebook (ScamSmart) www.facebook.com/FCAScamSmart[2]
- LinkedIn www.linkedin.com/company/financial-conduct-authority[3] and www.linkedin.com/showcase/transforming-culture[4]
- Twitter twitter.com/TheFCA[5], twitter.com/FCACymru[6]
- YouTube www.youtube.com/user/TheFCAtv[7]
Rydym hefyd yn defnyddio TikTok ac Instagram ar gyfer gweithgarwch ymgyrchoedd a hysbysebion o bryd i'w gilydd.
Os welwch chi gyfrif cyfryngau cymdeithasol arall yn honni ein cynrychioli ni, mae'n debyg ei fod yn sgam.
Negeseuon e-bost FCA
Rydym yn anfon e-byst o gyfeiriadau sy'n diweddu gyda:
- @fca.org.uk
- @fcanewsletters.org.uk
- @fcamail.org.uk
Mae gennym fesurau yn eu lle i atal twyllwyr rhag copïo a defnyddio ein cyfeiriadau e-bost. Ond mae’n bosib y byddant yn defnyddio cyfeiriadau e-bost tebyg i wneud i'w e-bost ymddangos yn ddilys.
Os yw e-bost yn edrych yn amheus, dylech ei ddileu heb ei agor.
Fersiynau ffug o'n gwefannau
Mae’n bosib y bydd twyllwyr yn copïo'n gwefannau a newid y wybodaeth. Mae’n bosib y byddant yn newid ein tudalennau rhybuddion fel ei bod hi’n edrych bod cwmnïau sgam wedi'u hawdurdodi gennym.
Gall y gwefannau hyn sydd wedi’u clonio fod yn argyhoeddiadol iawn, gyda dolenni a gwybodaeth gyswllt wedi'u copïo o'n gwefan go iawn.
I wneud yn siŵr bod gwefan yn ddilys, dylech wirio'r cyfeiriad (URL) sy'n ymddangos yn y bar cyfeiriad ar frig y dudalen we.
Os ydych chi ar ein gwefan ni, dylai bob amser ddechrau gyda https://www.fca.org.uk neu https://register.fca.org.uk/s/ ar gyfer y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol[8].
Galwadau ffug
Gall sgamwyr wneud i’n rhifau switsfwrdd – 020 7066 1000, 0300 500 8082 a 0800 111 6768 – ymddangos yn eich ID galwr. Gelwir hyn yn 'number spoofing'.
Er mwyn diogelu eich hun, peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol yn dilyn galwad sydd wedi dod i mewn a pheidiwch â ffonio’n ôl gan ddefnyddio'r manylion cyswllt y mae'r galwyr yn eu darparu.
Mwy o sgamiau cyfathrebu ffug
Mae’n bosib y bydd twyllwyr yn honni eu bod yn dod o fudiadau eraill, megis:
Cofiwch, os ydych chi'n amheus am unrhyw alwad, e-bost neu neges destun yr ydych wedi'i dderbyn, peidiwch ag ymateb nes eich bod wedi gwirio a ydyn nhw'n ddilys.
Dylech hefyd fod yn wyliadwrus o negeseuon e-bost neu alwadau sy'n honni eu bod o Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Am fwy o wybodaeth, gweler enghreifftiau CThEF o e-bost gwe-rwydo[12].
Rhoi gwybod am ohebiaeth FCA ffug
Os ydych yn poeni am dwyll posib neu os ydych yn credu y gallai twyllwr fod wedi cysylltu â chi, rhowch wybod i ni.
Cysylltwch â'n Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0800 111 6768 neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt[9].