Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) a Chynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS) yn adrodd ar ein gweithredu ar y cyd i helpu cyn-aelodau Cynllun Pensiwn Dur Prydain (BSPS) i gael yr ymddeoliad y buont yn gweithio ar ei gyfer.
1. Cyflwyniad
Pan gafodd yr BSPS ei ailstrwythuro yn 2017, penderfynodd tua 7,700 o aelodau i drosglwyddo allan o’r cynllun wedi iddynt dderbyn cyngor i wneud hynny.
Mae’r FCA yn amcangyfrif bod bron i hanner y cynllun hwn (46%) yn anaddas. Achosodd yr ymddygiad gwael hwn gan rai gynghorwyr niwed ariannol a thrallod sylweddol.
‘Pan siaradais â’r cynghorydd … teimlais ei fod wedi cymryd mantais o fy ofnau.’
‘Gan wybod beth rydw i’n ei wybod nawr, rydw i rhwng dau feddwl a wnes i’r penderfyniad cywir. Nosweithiau di-gwsg, dydw i ddim i fod i ddelio â’r cyllidau hyn.’
‘Dim ond gweithiwr dur oeddwn i, heb unrhyw syniad beth ddylwn i fod wedi ei wneud o ran fy mhensiwn.’
Cyn-aelodau BSPS, arolwg FCA, Chwefror 2021
Mae’r FCA, FOS, a FSCS wedi bod yn cydweithio’n agos i sicrhau:
- bod pob cyn-aelod o BSPS wedi derbyn y cyfle i ganfod a oedd eu cyngor yn addas
- bod cyn-aelodau a fethodd allan o ganlyniad i gyngor anaddas yn, cyn belled ag y bo modd, cael eu rhoi’n ôl yn y sefyllfa ariannol y byddent wedi bod ynddi pe baent wedi aros yn y BSPS
- bod cynghorwyr a achosodd niwed difrifol yn cael eu dal yn atebol am eu hymddygiad gwael
O ganlyniad i'n FOS, FSCS and FCA gweithredu
2. Ein hymagwedd at addasrwydd ac iawndal
Helpu cyn-aelodau BSPS i gwyno
Ers mis Ionawr 2018, rydym wedi annog cyn-aelodau BSPS i gwyno i’w cynghorydd os oeddent yn teimlo y gallent fod wedi derbyn cyngor anaddas.
Os oeddent yn anhapus ag ymateb eu cynghorydd, gallent gwyno i’r FOS.
Os aeth y cwmni i’r wal, cafodd cyn-aelodau eu hannog i wneud hawliad gyda’r FSCS.
Er mwyn helpu cyn-aelodau i ddeall beth oedd angen iddynt ei wneud, fe ddarparwyd cyngor amrywiol.
Roedd hyn yn cynnwys:
- ysgrifennu’n uniongyrchol atynt yn 2018, 2019 a 2020
- cynnal digwyddiadau lleol gyda nhw yn 2019 a 2021 (gyda’r Gwasanaeth Arian a Phenisynau yn ymuno)
- cyfathrebu drwy eu cyfryngwyr dibynadwy (gan gynnwys gweithwyr dur, ASau ac undebau llafur)
- daparu offer, megis ein gwiriwr cyngor[1], i’w gwneud yn haws deall a oedd eu cyngor yn addas
Cyflwyno cynllun iawndal
Erbyn 2021, er gwaethaf ein hallgymorth, nid oedd llawer o gyn-aelodau BSPS wedi cwyno eto.
Nododd ymchwil FCA fod llawer yn anhebygol o gwyno, gyda rhwystrau cyffredin yn cynnwys:
- ddim yn sicr os oedd eu cyngor yn anaddas
- teimlo’n anghyfforddus yn cwyno i’w cynghorydd
Felly, gan gydnabod y lefelau eithriadol o gyngor anaddas gan y BSPS, ac i sicrhau bod pob cyn-aelod yn cael y cyfle i dderbyn adolygiad o’u cyngor, yn 2022, cadarnhaodd yr FCA eu bod yn cyflwyno cynllun iawndal[2].
Cyn-aelod o BSPS, arolwg FCA, Chwefror 2021
O dan y cynllun iawndal, roedd yn rhaid i gwmnïau:
- adolygu’r cyngor a roddwyd ganddynt
- talu iawndal i’r rhai a gollodd eu harian o ganlyniad i gyngor anaddas
Mae’r llinell amser isod yn crynhoi camau allweddol y cynllun:
Crynodeb o gamau'r cynllun
Adolygu’r cyngor yn dechrau erbyn 28 Mawrth 2023
Cael gwybod a oedd y cyngor yn anghywir erbyn 28 Medi 2023
Cyfrifo'r hyn a allai fod yn ddyledus i chi
Gwneud cynnig o dâl i chi erbyn 28 Rhagfyr 2023
Os caiff ei dderbyn – fe gewch yn ôl yr hyn sy'n ddyledus i chi erbyn 28 Chwefror 2024
Yr FCA:
- wedi goruchwylio cwmnïau’n agos a rhoi gwiriadau ar waith er mwyn sicrhau bod cwmnïau’n cyflawni camau’r cynllun yn gywir
- yn darparu offer i gwmnïau eu defnyddio er mwyn gwirio addasrwydd eu cyngor ac i gyfrifo iawndal
Hefyd, roedd rhaid i gwmnïau roi manylion i’r FCA am achosion yr oeddent wedi’u dynodi’n addas, fel y gallent wirio os hoffai gyn-aelodau BSPS i’r FOS adolygu eu cyngor yn annibynnol.
Cyn i’r cynllun gychwyn, gosododd yr FCA reolau brys[3] i atal cwmnïau rhag tynnu asedau er mwyn osgoi talu iawndal. Hefyd, gweithrdedodd yr FCA yn erbyn cwmnïau a oedd yn gwneud cyngion digymell[4] mewn ymagis i eithrio cyn-aelodau BSPS o’r cynllun, ac i leihau eu rhwymedigaethau iawndal posibl.
Yn y cyfnod cyn, ac yn ystod y cynllun, roeddem yn ymgysylltu’n rheolaidd â chyn-aelodau BSPS i’w helpu i ddeall beth oedd yn ei olygu iddyn nhw. Ysgrifennasom at holl gyn-aelodau BSPS ynghylch cyflwyno’r cynllun. Ers 2022, rydym ni, ynghyd â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau, wedi cynnal 25 o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb (gan gynnwys 3 sesiwn rithiol) yng Nghymru a Gogledd-ddwyrain Lloegr, gan gyrraedd dros 1,200 o gyn-aelodau BSPS.
3. Canlyniadau addasrwydd ac iawndal
At ei gilydd, mae dros 6,500 o gyn-aelodau BSPS wedi cael eu cefnogi gan y FOS, FSCS neu drwy gynllun iawndal yr FCA.
Bellach, mae dros £100m o iawndal wedi’i gynnig i o leiaf 1,870 o gyn-aelodau BSPS.
*Daw’r ffigwr FOS o 3 arolwg FCA ym mis Chwefror 2022 a oedd yn gofyn am wybodaeth gan gwmnïau am yr iawndal a dalwyd yn dilyn penderfyniadau FOS. Mae’n debyg ei fod yn tan-amcangyfrif yr iawndal a dalwyd.
*Nid yw niferoedd yn adio o ganlyniad i dalgrynnu.
Amcangyfrifwn fod 1,744 o gyn-aelodau wedi derbyn cyngor anaddas ond ni chafodd iawndal ei gynnig iddynt. Mae hyn oherwydd, er iddynt dderbyn cyngor anaddas, nid ydynt wedi bod ar eu colled yn ariannol o ganlyniad.
Ers 2022, o ganlyniad i amodau economaidd newidiol, mae cyfran o’r unigolion a dderbyniodd gyngor anaddas i drosglwyddo ond na chawsant iawndal, wedi cynyddu’n sylweddol.
Darllenwch ragor am hyn yn adran 4.
Nid yw’r ffigyrau hyn yn cyfrif am yr oddeutu 7,700 o weithwyr dur a drosglwyddodd allan o’r BSPS wedi iddynt dderbyn cyngor. Mae hyn yn bennaf oherwydd pan fydd cwmni’n methu, mae angen i gwsmeriaid wneud cais i FSCS. Er gwaethaf allgymorth sylweddol, rydym yn gwybod nad yw rhai unigolion wedi gwneud hawliad eto.
Hefyd, mae dros 200 o hawliadau o hyd yn gweithio’u ffordd drwy’n cynllun iawndal.
3.1. Canlyniadau unioni cam cynllun cyn gwneud iawndal
Adolygiad gan berson gyda sgiliau
Cafodd gyngor 262 o gwsmeriaid eu hadolygu gan arbenigwr annibynnol (‘person gyda sgiliau’):
- Cafodd 166 eu hasesu yn anaddas
- Cynigwyd iawndal o £19.3m i 119
- Roedd y 47 arall wedi derbyn cyngor anaddas ond nid oedd unrhyw iawndal yn ddyledus iddynt gan nad oeddent ar eu colled yn ariannol o ganlyniad
Cwynion FOS
Derbyniodd yr FOS ychydig llai na 1,500 o gwynion gan gyn-weithwyr Dur Prydain cyn i’r cynllun ddechrau. O’r rhain, cyfeirwyd 455 o achosion at FSCS, ac roedd nifer fach y tu allan i awdurdodaeth yr FOS. O’r gweddill, cadarnhawyd 86% o’r achosion o blaid y defnyddiwr.
Fe dalwyd o leiaf £8.4 miliwn i ddefnyddwyr. Mae’r ffigwr hwn yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd gan gwmnïau ac mae’n cwmpasu’r cyfnod hyd at Chwefror 2022 ac felly, yn debygol o fod yn dan-amcangyfrif.
‘Daethpwyd i’r afael â mi yn broffesiynol ac yn gyflym iawn, ac roedd yn ryddhad bod fy nghwyn wedi cael sylw gyda’r cwmni gwnes i gwestiynu yn gywir, ac nad oedd gennyf i unrhyw sail arall dros wneud cwyn.'
‘Roedd [GWEITHIWR ACHOS] a ddeliodd gyda fy achos yn wych ymhob agwedd, boed yn esboniad, gwaith cyfathrebu neu gyfeiriadaeth, ac unwaith eto hoffwn ddiolch iddo am ei ymdrechion ar fy rhan.'
‘Er nad oedd y canlyniad o fudd i mi, teimlais bod yr ymchwiliad yn un trylwyr ac wedi’i gyfathrebu’n effeithiol.’
Adborth gan gwynwyr FCS
Hawliadau FSCS
Gwnaeth 1,768 o gyn-aelodau BSPS hawliad gyda FSCS cyn i’r cynllun ddechrau. O’r rhain, rhoddwyd iawndal o £69.7m i 1,257, a darganfuwyd bod 302 o hawlwyr wedi derbyn cyngor anaddas, ond nad oedd unrhyw iawndal yn ddyledus iddynt gan nad oeddent ar eu colled yn ariannol o ganlyniad.
‘Roeddwn i’n teimlo fel bod y gwasanaeth yn agored ac yn onest. Roedd y staff yn barod iawn i helpu ac yn adnabod y problemau y cefais.’
‘Roedd y broses gyfan yn syml. Roeddent yn fy hysbysu drwy’r amser, a chefais fy nhrin â pharch mawr gan y staff. O’r cychwyn hyd at y diwedd, roedd yn brofiad gwych.’
‘Roeddwn i’n ofnus iawn pan gysylltais â’r FSCS am y tro cyntaf, ond roedden nhw’n amyneddgar iawn pan esboniais nad oeddwn i’n deall geiriau llafar yn dda iawn ac yn deall geiriau ysgrifenedig yn llawer gwell, felly fe ddywedon nhw na fyddai’n broblem o gwbl i barhau gydag e-byst.’
Adborth gan gwynwyr FSCS
3.2. Canlyniadau cynllun gwneud iawn
Nodyn ar y data
Mae’r ffigyrau hyn yn seiliedig ar ddata adroddwyd i’r FCA gan gwmnïau, ac wedi’u cyfuno â data sy’n cael ei gadw gan yr FOS a FSCS.
O ganlyniad i’r ffordd caiff y data hwn ei hadrodd gan gwmnïau, mae’r ffigyrau yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu’r sefyllfa ar ddiwedd Ebrill 2024. Ar y pwynt hwn, roedd mwyafrif helaeth y defnyddwyr wedi cwblhau’r cynllun. Fel sy’n cael ei egluro isod, mae nifer fach yn dal i symud ymlaen drwy’r cynllun.
Asesiad o gyngor
Asesodd cwmnïau fod 49% o’r cyngor a roddwyd yn anaddas. Mae hyn yn cyd-fynd yn fras ag amcangyfrif yr FCA cyn i’r cynllun ddechrau.
Adroddodd cwmnïau fod:
- 1,073 o bobl (49.1%) wedi derbyn asesiadau cyngor fel un addas
- 1,079 o bobl (49.4%) wedi derbyn asesiadau cyngor fel un anaddas
- mewn 34 achos (1.6%) roedd gwybodaeth ar goll, a oedd yn atal y cwmni rhag gwneud asesiad
Ar gyfer y 34 o achosion lle’r oedd gwybodaeth ar goll, o dan reolau’r cynllun, roedd rhaid i gwmnïau wneud cais am y wybodaeth gan eu cwsmeriaid trwy 2 ymgais ddilynol. Pe na bai’r cwsmer yn ei ddarparu, anfonodd y cwmni lythyr terfynol yn egluro hawl y cwsmer i gwyno i’r FOS, ac oherwydd y wybodaeth goll, na allai’r cwmni adolygu eu cyngor o dan y cynllun mwyach.
Cyfrifo a thalu iawndal
O dan y cynllun, mae 360 o gyn-aelodau BSPS wedi cael cynnig iawndal o £8.7m. Cafodd 187 o bobl gynnig iawndal o £3.8m gan gwmnïau, a chynigiodd yr FCS iawndal gwerth cyfanswm o £5m i 173 arall (ffigwr wedi’i dalgrynnu).
O 28 Ebrill 2024, mae 32 o gyfrifiadau iawndal (27 cynllun a 5 cyn-cynllun) yn aros am benderfyniad yr FOS.
O 24 Ebrill 2024, mae’r FSCS eto i benderfynu 217 o hawliadau, sy’n cynnwys 138 o hawliadau cynllun a 79 o hawliadau cyn y cynllun. Mae FSCS yn dal i dderbyn hawliadau BSPS newydd, felly mae disgwyl i’r nifer hwn godi.
Achosion ‘di-golled’
Canran o’r achosion anaddas lle penderfynwyd nad oedd angen iawndal i gyn-aelodau yw 70.1%. Mae’r ffigwr hwn yn cyfuno achosion di-golled sy’n cael eu hadrodd gan gwmnïau a’r rhai gan FSCS.
Mae hyn yn sylweddol uwch na’r disgwyl pan weithredodd yr FCS y cynllun. Fel yr amlinellwn ni ymhellach yn yr adroddiad hwn, mae hyn yn gyson â’r newidiadau a welwyd mewn gwerthoedd iawndal o ganlyniad i amodau economaidd newidiol.
Sicrhau bod cwmnïau’n gweithredu’r cynllun yn gywir
Mae rheolau’r FCA ar gyfer y cynllun yn nodi’r camau y mae’n rhaid i gwmnïau eu cymryd ar bob lefel, gan gynnwys sicrhau bod cyn-aelodau yn ymwybodol y gallent gwyno i’r FOS ar unrhyw adeg os oeddent yn anhapus â’r canlyniad y daeth y cwmni iddo.
Ar 28 Ebrill 2024, roedd yr FCA wedi derbyn 371 cwyn yn ystod y cynllun, gyda 344 o achos wedi’i datrys. Cafodd 55% eu cadarnhau o blaid y defnyddiwr.
Hefyd, bu’r FCA yn craffu’n fanwl ar gwmnïau a oedd yn mynd drwy’r cynllun iawndal. Pan benderfynodd cwmnïau fod y cyngor a roddwyd ganddynt yn addas, roedd rhaid iddynt roi manylion cyswllt y defnyddiwr i’r FCA. Cysylltodd yr FCA â’r defnyddwyr hyn i’w hatgoffa o’u hawl i gyfeirio’u hachos i’r FOS am adolygiad annibynnol. Yn gyffredinol, roedd 179 o ddefnyddwyr y dywedodd eu cwmni eu bod wedi derbyn cyngor addas bryd hynny, i gwyno i'r FOS.
Ar ôl gwneud cwyn i’r cwmni a oedd yn ei gynghori i drosglwyddo’i bensiwn, dywedodd y cwmni wrth y gweithiwr Dur Prydain, Mr S, fod y cyngor a roddwyd ganddynt yn addas.
Fe anghytunodd Mr S a chyfeiriodd ei gŵyn at y FOS. Bu ymchwilydd yn ystyried ymateb terfynol y busnes i Mr S, ochr yn ochr â rheolau’r cynllun iawndal a chanfod nad oedd wedi cymhwyso’r rheolau yn gywir.
Gofynodd yr ymchwilydd i’r busnes gyfrifo unrhyw iawndal a oedd yn ddyledus a’i dalu i Mr S, ac fe gytunodd y busnes i wneud hynny.
Cwynwr FOS
Lle’r oedd cwmnïau’n adrodd bod cyfran uchel o gyn-aelodau wedi optio allan o’r cynllun, cysylltodd yr FCA â nhw er mwyn sicrhau nad oedd cwmnïau’n rhoi pwysau arnynt i optio allan, a’u hatgoffa o’u hawl i gyfeirio’u hachos i’r FOS am adolygiad annibynnol. Ar y cyfan, cwynodd 39 o ddefnyddwyr a ddewisiodd optio allan o’r cynllun i FOS.
‘Fe wnes i gwestiynu gyda’r cynghorydd beth oedd cynllun iawndal y BSPS, a dywedwyd wrthyf y byddwn yn derbyn dim, a teimlais dan bwysau a fel fy mod yn cael fy mrysio i dicio’r blwch a dychwelyd y ffurflen atynt. Doeddwn i ddim yn ei ddeall yn iawn, a doeddwn i ddim am lofnodi unrhyw iawndal.’
Cyn-aelod BSPS wedi’u cysylltu â nhw gan yr FCA
Cyfathrebu rhagweithiol gyda defnyddwyr cwmnïau sydd wedi methu
Fe wnaethom annog cwsmeriaid cwmnïau a aeth i’r wal yn ystod y cynllun iawndal i wneud hawliad gyda’r FSCS. Ers cychwyn y cynllun, aeth 11 o’r cwmnïau’n ddyledwyr[5].
Lle’r oedd gan gwmnïau gofnodion cleientiaid da, gan gynnwys y manylion cyswllt diweddaraf, roedd yr FSCS yn gallu cysylltu’n rhagweithiol â chyn-aelodau BSPS a oedd wedi cael cyngor gan y cwmni. Cawsant eu gwahodd i wneud hawliad a’u cefnogi drwy’r broses dros y ffôn neu drwy gwe-sgwrs os oedd angen.
Hyd yn hyn, mae FSCS wedi gallu cysylltu’n rhagweithiol â chwsmeriaid 7 cwmni a fethodd. Cafodd llythyr uniongyrchol ei hanfon at bob cwsmer gan yr FSCS, a chafodd hyn ei dilyn gan gyfathrebiadau pellach os nad oeddent wedi ymateb.
Inspirational Financial Management Ltd
Nid yw FSCS wedi gallu cysylltu â chwsmeriaid Inspirational Financial Management Ltd eto.
Os ydych chi’n gwmser a heb gael cyngor wedi’i adolygu eto,dylech wneud hawliad gyda’r FSCS[6] i ganfod os oes iawndal yn ddyledus i chi.
4. Newidiadau mewn gwerthoedd iawndal
Un o nodau allweddol ein gwaith yw sicrhau nad yw gweithwyr dur a gafodd gyngor gwael i drosglwyddo allan o’r BSPS ar eu colled o ganlyniad.
Er mwyn cyfrifo os oes arian yn ddyledus i gyn-aelodau BSPS, mae’n rhaid i gwmnïau gyfrifo faint sydd ei hangen yng nghronfa buddion ddifinideig (DC) y defnyddiwr i gyfateb â’r pensiwn y byddent wedi’i dderbyn pe na baent wedi trosglwyddo allan o’r cynllun buddion ddiffinedig. Rhaid i gwmnïau wedyn gymharu hynny â gwerth cyfredol eu cronfa DC. Mae’r cyfrifiadau yn seiliedig ar yr hyn y mae marchnadoedd ariannol yn ei ddisgwyl yn y dyfodol. Mae’r cyfrifiad iawndal yn rhagdybio y bydd defnyddwyr yn anelu at gael yr un faint o fuddion pensiwn ag yr oeddent wedi’i ildio trwy brynu blwydd-dal. Mae blwydd-dal yn darparu incwm gwarantedig am oes.
Ers i’r FCA gyflwyno’r cynllun iawndal, mae’r gost ddisgwyliedig ariannu incwm ymddeol gwarantedig trwy flwydd-dal wedi gostwng. Er enghraifft, mae bellach yn costio llai i gael yr un incwm ymddeoliad gwarantedig â dderbyniodd rhywun a gafodd iawndal 2 flynedd yn ôl. Mae hyn yn golygu bod y swm sydd ei hangen i ychwanegu at gronfa DC i roi rhywun yn ôl yn y sefyllfa y byddent wedi bod ynddi pe na baent wedi cael cyngor anaddas, yn debygol o fod yn llai, ac mewn rhai achosion, sero.
Os oes gan gyn-aelod o BSPS fwy yn ei gronfa DC na gwerth y buddion y byddai wedi’u cael pe bai wedi aros yn y BSPS, yna ni fydd yn cael cynnig unrhyw arian yn dilyn cyfrifiad iawndal. Mae hyn oherwydd er iddynt dderbyn cyngor anaddas, nid ydynt wedi colli allan o ganlyniad.
Rydym yn deall y gall cyn-aelodau BSPS fod yn siomedig i dderbyn dim arian neu lai na’r disgwyl. Pwrpas y cyfrifiadau iawndal yw sicrhau, cyn belled ag y bo modd, bod cyn-aelodau yn cael eu rhoi yn ôl yn y sefyllfa ariannol y byddent wedi bod ynddi pe baent wedi aros yn y BSPS.
Mae hyn yn debyg i’r dull y byddai’r llys yn debygol o’i gymryd i gyfrifo iawndal mewn achosion tebyg.
Rydym wedi cynnwys enghreifftiau isod o gwynion a hawliau BSPS a ystyriwyd gan yr FOS a’r FSCS i ddangos sut y gall ddyfarniadau iawndal amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.
5. Camau a gymerwyd yn erbyn cwmnïau ac unigolion
Mae’r FCA wedi cynnal tua 30 o ymchwiliadau gorfodi i gyngor trosglwyddo BSPS.
Hyd yn hyn, mae hyn wedi arwain at:
- 15 o unigolion yn cael eu gwahardd rhag gweithio yn y gwasanaethau ariannol neu rhag dal rôl benodol
- ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau neu unigolion i dalu dirwyon neu i wneud taliadau i FSCS gwerth cyfanswm o £8.87m
(Mae rhai gwaharddiadau a dirwyon dan apêl.)
Lle bo’n addas, yn hytrach na gosod cosbau ariannol, mae’r FCA wedi ceisio gwneud taliadau i FSCS, gan sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am y gamwedd yn cyfrannu at yr iawndal sy’n cael ei thalu gan yr FSCS i ddefnyddwyr a oedd ar eu colled yn ariannol o ganlyniad i gyngor anaddas.
Mae’r FCA yn parhau i fynd ar ôl y rhai a roddodd gyngor gwael, ac yn cyhoeddi diweddariadau ar eu tudalen gorfodi BSPS[7].