Ymgynghoriad yn agor
07/12/2023
Ymgynghoriad yn dod i ben
08/02/2024
Datganiad Polisi
24/07/2024
24/07/2024
Rydym yn gosod y rheolau terfynol ar gyfer ein trefn cael mynediad at arian parod. Daw’r rheolau newydd i rym ar 18 Medi 2024.
Mae ein trefn rheoleiddio newydd yn ei gwneud yn ofynnol i fanciau a chymdeithasau adeiladu a ddynodwyd gan y Llywodraeth i asesu a llenwi bylchau, neu fylchau posib, yn y ddarpariaeth o gael mynediad at arian parod sy’n cael effaith sylweddol ar ddefnyddwyr a busnesau.
Rydym yn cyflwyno’r newidiadau hyn gan fod y Senedd wedi rhoi cylch gwaith newydd a phwerau i ni i ‘geisio sicrhau darpariaeth resymol’ o wasanaeth bancio arian parod ar gyfer cyfrifon cyfredol personol a busnes ledled y DU. Mae hyn yn cynnwys mynediad at arian parod a darnau arian, a mynediad sy’n rhad ac am ddim i ddefnyddwyr sydd â chyfrifon personol cyfredol.
Ym mis Rhagfyr 2023, fe wnaethom ymgynghori[2] ar sefydlu trefn reoleiddio ar gyfer mynediad at arian parod. Rydym wedi ystyried yr holl adborth yn ofalus wrth geisio cwblhau ein rheolau a’n canllawiau.
Mae’r Datganiad Polisi hwn yn berthnasol i:
Bydd hefyd o ddiddordeb i gwmnïau sy’n darparu cyfrifon cyfredol i gwsmeriaid personol neu fusnes; defnyddwyr a busnesau sy’n dibynnu ar arian parod a grwpiau sy’n cynrychioli eu buddiannau, grwpiau diwydiant / cyrff masnach a chynrychiolwyr etholedig.
Bydd ein rheolau yn dod i rym ar 18 Medi 2024.
Rhaid i’r cwmnïau a ddynodwyd gan y Llywodraeth[3], ac sydd felly yn syrthio dan ein trefn darparu mynediad at arian parod:
Lle mae cwmnïau eisoes wedi cyhoeddi y bydd gwasanaethau sy’n rhoi mynediad at arian parod yn cau cyn i’n rheolau ddod i rym, ni fydd y rhain yn ddarostyngedig i’r drefn reoleiddio newydd.
Fodd bynnag, ni ddylai cwmnïau ruthro’r broses o gau cyn 18 Medi. O dan FG22/6: Canllawiau cau neu drosi canghennau a pheiriannau ATM[4], dylai cwmnïau gyfathrebu gyda’u cwsmeriaid ynghylch cau o leiaf 12 wythnos cyn i hynny ddod i rym.
Rydym wedi gweld arloesi a newid sylweddol yn y ffyrdd y gall ddefnyddwyr dalu, a busnesau dderbyn taliadau. Mae hyn wedi’i ysgogi gan:
Er y gall yr ystod gynyddol o wasanaethau digidol ac opsiynau talu wneud bywyd yn haws, i lawer, mae’r gallu i godi arian parod yn parhau i fod yn hanfodol. Mae arian parod yn dal i fod yn arbennig o bwysig i ddefnyddwyr sy’n fregus, a llawer o fusnesau bach.
Felly, mae’n bwysig i ni reoli graddfa ac effaith y newid, a sicrhau bod defnyddwyr yn derbyn y cymorth priodol gan eu banc.
Links