Os ydych chi yn meddwl bod twyllwr neu gwmni anawdurdodedig wedi cysylltu â chi, darganfyddwch pa sgamiau y gallwn ymchwilio iddynt a sut i gyflwyno adroddiad arnynt.
Gall unrhyw un fod yn darged i sgamiau. Weithiau, mae hi’n anodd dweud y gwahaniaeth rhwng twyll a chynnig dilys. Os oes rhywun yn cysylltu gyda chi am:
- fuddsoddiad
- eich pensiwn
- wneud benthyciad
- gynnyrch yswiriant a gwarant
- wneud hawliad
Neu os ydych chi wedi sylwi ar fuddsoddiad amheus ar-lein, neu wasanaeth yr ydych chi wedi ei dalu amdano, rhowch wybod i ni.
Rydym yn gwneud ymchwiliad i bob adroddiad yr ydym yn ei dderbyn, fe allai fod yn gymorth wrth amddiffyn eraill.
Os ydych chi wedi rhoi unrhyw fanylion personol neu wedi gwneud taliad i’r sgamwyr, dywedwch wrth eich banc ar unwaith, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol[1]. Dysgwch fwy am sut i amddiffyn eich hun rhag sgamiau[2].
Sgamiau na allwn ni helpu gyda nhw
Sgamiau sy’n ymwneud â gwasanaethau ariannol rydym ni yn eu rheoleiddio ydy’r unig rai y gallwn ni ymchwilio iddynt. Nid ydym yn cynnig cymorth gyda:
- sgamiau trwydded yrru
- sgamiau trwydded deledu
- sgamiau Cyllid a Thollau EF (CThEF) a threth
- sgamiau cystadlaethau neu loteri
- sgamiau masnachwyr eBay/Gumtree/Amazon (e.e, os nad ydych yn derbyn nwyddau gan y gwerthwr)
Os oes rhywun wedi cysylltu gyda chi am y sgamiau yma:
- cysylltwch gyda Action Fraud ar 0300 123 2040 neu fynd i’w gwefan[3]. Os ydych chi’n byw yn yr Alban, dylech gysylltu gyda Police Scotland ar 101, neu gysylltu gydag Advice Direct Scotland ar 0808 164 6000
- cysylltwch â’r sefydliad neu reolydd perthnasol
Os ydych chi wedi derbyn e-bost, neges destun neu alwad ffôn amheus yn honni mae’r CThEF sydd yn eich ffonio, ewch i ddarganfod mwy[4].
Sut i wneud adroddiad ar sgam
I wneud adroddiad ar sgam neu gwmni anawdurdodedig, cysylltwch gyda ni dros y ffôn neu drwy ein ffurflen gysylltu.
Rydym ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 8yb tan 6yh ac ar Ddydd Sadwrn 9yb tan 1yp.
- 0800 111 6768
- 0300 500 8082 o’r DU
- +44 207 066 1000 o dramor
Bydd ein tîm yn cymryd manylion y sgam ac yn cynnig arweiniad ar eich camau nesaf.
Ar gyfer galwadau yn defnyddio gwasanaeth cyfnewid testun, galwch ni ar (18001) 0207 066 1000.