Mae sgamiau'n gallu bod yn soffistigedig, ond os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod e. Dysgwch sut i adnabod yr arwyddion rhybudd a sut mae gwirio bod cyswllt yn ddilys.
On this page
Adnabod yr arwyddion rhybudd
Mae sgamiau'n gallu bod yn anodd eu hadnabod. Gall twyllwyr fod yn argyhoeddiadol ac yn wybodus, gyda gwefannau a deunyddiau sy'n edrych yn union yr un fath â'r peth go iawn.
Ond os oes rhywun wedi cysylltu â chi'n annisgwyl, neu os ydych yn amheus am alwad neu neges destun, gwnewch yn siŵr eich bod yn stopio ac yn gwirio’r arwyddion rhybudd.
- Ydy e'n annisgwyl? Mae sgamwyr yn aml yn ffonio heb rybudd. Mae’n bosib y byddant hefyd yn ceisio cysylltu â chi drwy e-bost, neges destun, post, cyfryngau cymdeithasol, neu hyd yn oed wyneb yn wyneb.
- Ydych chi'n teimlo dan bwysau i weithredu'n gyflym? Mae’n bosib y bydd sgamwyr yn cynnig bonws neu ostyngiad i chi os byddwch yn buddsoddi'n gyflym, neu efallai y byddan nhw'n dweud bod y cyfle ond ar gael am gyfnod byr.
- Ydy'r cynnig yn swnio'n rhy dda i fod yn wir? Mae twyllwyr yn aml yn addo gwobrau sy’n demtasiwn, fel enillion uchel ar fuddsoddiad.
- Ydy'r cynnig i chi yn unig? Efallai y bydd sgamwyr yn honni eich bod wedi cael eich dewis yn arbennig ar gyfer cyfle buddsoddi, ac y dylid ei gadw'n gyfrinach.
- Ydyn nhw'n ceisio eich seboni? Mae sgamwyr yn aml yn ceisio meithrin cyfeillgarwch gyda chi i wneud i chi deimlo’n gartrefol.
- Ydych chi'n teimlo'n bryderus neu'n gyffrous? Efallai y bydd twyllwyr yn ceisio dylanwadu ar eich emosiynau i'ch cael chi i weithredu.
- Ydyn nhw'n siarad ag awdurdod? Gallai sgamwyr honni eu bod wedi'u hawdurdodi ac yn aml yn ymddangos yn wybodus am gynhyrchion ariannol.
Os ateboch chi 'ie' i unrhyw un o'r cwestiynau hyn, neu os nad ydych yn siŵr a yw cyswllt yn ddilys, dilynwch y camau isod i ddiogelu eich hun.
Gwirio'r cwmni neu'r unigolyn
-
1
Gwiriwch a yw'r cwmni neu'r unigolyn wedi'i awdurdodi
Rhaid i bron bob cwmni gwasanaethau ariannol yn y DU gael eu hawdurdodi neu gofrestru gennym ni. I gael gwybod a yw cwmni neu unigolyn wedi'i awdurdodi, gallwch wirio ein Cofrestr Gwasanaethau Ariannol:
Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn defnyddio cyfeiriad y wefan uchod i ymweld â'r Gofrestr FS. Peidiwch byth â chlicio ar ddolenni mewn e-bost neu ar wefannau'r cwmni. Gallai fod yn rhan o'r sgam.
Gwiriwch fod rhif cyfeirnod y cwmni (FRN) a’r manylion cyswllt rydych chi wedi'u cael yn cyd-fynd â'r manylion ar y Gofrestr FS.
Os nad oes unrhyw fanylion cyswllt wedi'u rhestru ar y Gofrestr FS, neu os yw'r cwmni'n dweud eu bod wedi dyddio, ffoniwch ein Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0800 111 6768.
Cofiwch, mae rhai cwmnïau’n esgus bod yn gwmnïau awdurdodedig, felly defnyddiwch y manylion cyswllt ar y Gofrestr FS bob amser.
-
2
Cysylltu â ni
Os ydych chi'n cael trafferth gwirio manylion cwmni ariannol neu unigolyn, cysylltwch â'n Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0800 111 6768.
Gall ein tîm wirio'r manylion rydych chi wedi'u cael a dweud wrthych a yw'r cwmni'n ddilys.
Sut i ddiogelu eich hun
Gyda throseddwyr yn defnyddio technegau niferus i dargedu pobl, gall fod yn hawdd dioddef sgam. Ond mae yna ambell beth y gallwch chi ei wneud i geisio ei osgoi.
Cofiwch:
- drin pob galwad, e-bost a neges destun annisgwyl yn ofalus. Peidiwch â chymryd yn ganiataol eu bod yn ddilys, hyd yn oed os yw'r person yn gwybod rhywfaint o wybodaeth sylfaenol amdanoch chi
- rhoi’r ffôn i lawr ar alwadau ac anwybyddu negeseuon os ydych yn teimlo dan bwysau i weithredu'n gyflym. Ni fydd gwahaniaeth gan fanc neu fusnes go iawn aros os ydych chi eisiau amser i feddwl
- gwirio eich cyfrif banc a’ch datganiadau cerdyn credyd yn rheolaidd
- ystyried cael cyngor neu gyfarwyddyd ariannol annibynnol cyn gwneud penderfyniad ariannol mawr (mae gan MoneyHelper wybodaeth ar sut i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol)
- gwirio rheoleiddwyr tramor os ydych yn delio â chwmni tramor (dylech hefyd wirio'r rhestr o rybuddion sgam gan reoleiddwyr tramor)
Peidiwch â:
- rhoi manylion eich cyfrif banc neu'ch cerdyn credyd oni bai eich bod yn sicr pwy rydych yn delio â nhw
- rhannu eich cyfrineiriau ag unrhyw un (gan gynnwys eich cyfrineiriau cyfryngau cymdeithasol)
- rhoi mynediad i'ch dyfais drwy lawrlwytho meddalwedd neu ap o ffynhonnell nad ydych yn ymddiried ynddi. Efallai y bydd sgamwyr yn gallu cymryd rheolaeth o'ch dyfais a chael mynediad i'ch cyfrif banc
Beth i'w wneud os ydych chi wedi cael eich sgamio
Rhowch wybod amdano
Os ydych yn poeni am sgam posib neu os ydych yn credu y gallai twyllwr fod wedi cysylltu â chi, rhowch wybod i ni. Gallai hyn helpu i atal eraill rhag dioddef yr un drosedd.
Cysylltwch â’n Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0800 111 6768 neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt.
Ar gyfer unrhyw beth nad ydym yn ei reoleiddio, neu os ydych wedi colli arian i sgam, cysylltwch ag Action Fraud ar 0300 123 2040 neu drwy eu gwefan.
Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau'r dyfodol
Mae'n bwysig bod yn hynod ofalus os ydych chi eisoes wedi cael eich sgamio. Gallai twyllwyr geisio eich targedu chi eto, neu efallai y byddan nhw'n gwerthu'ch manylion i droseddwyr eraill.
Gallai'r sgam newydd fod yn hollol wahanol, neu gallai fod yn gysylltiedig â'r sgam blaenorol. Er enghraifft, gellid cysylltu â chi gyda chynnig i gael eich arian yn ôl neu i brynu buddsoddiad yn ôl ar ôl i chi dalu ffi. Mae'r rhain yn cael eu galw'n sgamiau ystafell adfer.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon o gwbl am dwyll ariannol posib, cysylltwch â ni ar unwaith.