Edrychwch ar ein Rhestr Rhybuddion i ddod o hyd i fanylion cwmnïau ac unigolion anawdurdodedig yr ydym yn ymwybodol ohonynt, sydd yn gweithredu heb ganiatâd yn y DU.
On this page
Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o gwmnïau ariannol yn y DU gael eu hawdurdodi neu eu cofrestru trwy ein gwasanaeth ni. Yn anffodus, mae nifer o gwmnïau sy’n dal i weithio heb ein hawdurdod.
Gwiriwch ein Cofrestr Gwasanaethau Ariannol[1] i ddarganfod os yw’r cwmni wedi eu awdurdodi. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i gwmni ar y Gofrestr cysylltwch gyda’n Llinell Gymorth Defnyddwyr ar 0800 111 6768.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn delio â chwmnïau awdurdodedig yn unig. Os byddwch yn delio â chwmni anawdurdodedig, ni fyddwch yn cael eich diogelu gan Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol[2] na’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS)[3] os ydych yn cael trafferthion.
Chwiliwch ar y Rhestr Rybuddion
Mae ein Rhestr Rybudd yn dangos y cwmnïau yr ydym yn pryderu eu bod yn gweithredu heb ein caniatâd.
Rydym yn ychwanegu cwmnïau at y rhestr hon cyn gynted â phosibl. Ond nad yw cwmni ar y rhestr, efallai ei fod yn dal heb awdurdod neu fod yn sgam. Mae cwmnïau anawdurdodedig yn aml yn newid eu henwau, ac efallai nad ydym yn ymwybodol o hyn eto.
I ddefnyddio’r rhestr, gallwch:
- Chwiliwch am gwmni anawdurdodedig gan ddefnyddio’r bar chwilio
- Hidlo canlyniadau yn ôl llythyren gyntaf y cwmni
- Cliciwch ar y golofn ‘Enw’ i drefnu’r cwmnïau o A i Z
Os ydych yn ymwneud â chwmni tramor, gwiriwch y rhestr o rybuddion gan reoleiddwyr tramor[4].
Tanysgrifiwch i RSS i dderbyn diweddariadau cyson
Search results update instantly to match the search query and any filters applied.
Sort by first character
Sut i amddiffyn eich hun
Byddwch yn wyliadwrus o sgamwyr sydd yn ceisio dweud eu bod yn rhan o gwmnïau awdurdodedig. Gall rhain fod yn gwmnïau clôn[74] (fersiwn ffug o gwmni dilys). Os oes gwasanaethau ariannol yn gwneud galwad annisgwyl i chi, ffoniwch nhw yn ôl gan ddefnyddio’r rhif ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol bob amser.
Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich targedu gan sgam, rhowch wybod i ni ar-lein[75]. Rydym yn ymchwilio i bob adroddiad yr ydym yn eu dderbyn, ac fe allai hefyd helpu i amddiffyn eraill rhag twyllwyr.
Dewch i ddysgu mwy am sut i amddiffyn eich hun rhag sgamiau[76].