RegData yw ein platfform newydd i gasglu data rheoleiddiol gan gwmnïau. Mae’n disodli ein system Gabriel, ac yn ei gwneud hi’n haws i gwmnïau gyflwyno eu data.
Bydd angen i bob un o’r 52,000 cwmni sy’n cyflwyno gwybodaeth reoleiddiol yn Gabriel ddefnyddio RegData.
Defnyddio RegData
Fel Gabriel, gallwch ddefnyddio system RegData i:
- gyflwyno data rheolaethol
- gweld atodlen wedi ei theilwra o’ch anghenion adrodd chi
- gweld eich holl gyflwyniadau mewn un lle
- argraffu eitemau data
Mae RegData wedi ei adeiladu gyda thechnoleg fwy hyblyg fel y gallwn drwsio problemau yn gynt a pharhau i wella profiad defnyddwyr.
Adnoddau ar-lein
Cyfeiriwch at ein tudalennau r/firms/regdata/resources[3] ar gyfer canllaw defnyddwyr a fideos esbonio i’ch tywys trwy bob agwedd o’r system.
Os nad ydych wedi symud i RegData eto, darganfyddwch sut i baratoi eich cwmni ar gyfer y symud[1].
Yn y dyfodol, byddwn yn:
- cyhoeddi canllawiau technegol a manylion unrhyw uwchraddio system
- diweddaru cwmnïau o unrhyw ddatblygiadau trwy ein gwefan a’n sianeli cyfathrebu eraill, gan gynnwys Regulation Round-up
Anghenion technegol
I gael mynediad i RegData, rydym yn argymell:
- Adobe Acrobat Reader 7.0 neu uwch (am ddim i lawr lwytho)
- Google Chrome
- cydraniad sgrin 1280 x 1024 picsel
Eitemau data
Ni fydd yr eitemau data rydych yn cyflwyno yn RegData yn newid – byddwch yn cwblhau eich cyflwyniadau yn RegData yn hytrach na Gabriel. Rydym eisoes wedi cyhoeddi canllaw[4] ar sut i gwblhau rhai o’r eitemau data mwyaf cyffredin yn Gabriel, megis materion ariannol neu arian cleient ac enillion asedau, bydd y rhain yn aros yr un fath ar RegData.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllaw cyfeirio data[5] ar gyfer Gabriel, mae hwn yn parhau’r un fath ar gyfer RegData.
Canllawiau polisi a chwestiynau cyson
Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i system Gabriel a RegData. Mae ar gael ar hyn o bryd ar ein tudalen cymorth a chwestiynau cyson Gabriel[5].