RegData

RegData yw ein platfform casglu data ar gyfer casglu data rheoleiddiol gan gwmnïau. Mae wedi disodli Gabriel ac yn ei gwneud yn haws i gyflwyno data eich cwmni. Darganfyddwch sut i ddefnyddio’r system.

Cofrestru Prif Ddefnyddiwr

Unwaith y bydd eich cwmni wedi’i awdurdodi, byddwch yn gallu cofrestru Prif Ddefnyddiwr yn RegData. Bydd y Prif Ddefnyddiwr yn gallu sefydlu a rheoli defnyddwyr eraill, yn ôl yr angen. Gwyliwch ein fideo byr neu darllenwch ein canllaw defnyddwyr ar sut i gofrestru Prif Ddefnyddiwr fel cwmni sydd newydd gael ei awdurdodi.

Mewngofnodi i RegData

Dilysu aml-ffactor

Rydym wedi cryfhau sut rydych chi’n mewngofnodi i RegData i ddiogelu a rheoli mynediad i’n data ymhellach. Bydd angen i chi rŵan fewnbynnu eich cyfrinair un-tro bob tro y byddwch chi’n mewngofnodi. Gweler ein tudalen adnoddau am fwy o wybodaeth.

Defnyddio RegData

Gallwch ddefnyddio'r system RegData i:

  • gyflwyno data rheoleiddiol
  • gweld amserlen o’ch gofynion adrodd wedi’i theilwra
  • gweld eich holl gyflwyniadau mewn un lle
  • argraffu eitemau data

Mae RegData wedi’i adeiladu gyda thechnoleg fwy hyblyg fel y gallwn ddatrys problemau yn gyflymach a pharhau i wella profiad y defnyddiwr.

Os ydych chi’n ceisio cyflwyno ceisiadau neu hysbysiadau (e.e., Awdurdodiadau neu Gofrestriadau Newydd, Amrywio Caniatâd, diweddaru neu dystio manylion eich cwmni) bydd angen i chi ddefnyddio ein system Connect.

Adnoddau

Cyfeiriwch at ein tudalen adnoddau ar gyfer canllawiau defnyddwyr a fideos eglurhaol i’ch tywys trwy bob agwedd o’r system.

Eitemau Data

Rydym wedi cyhoeddi cymorth ar sut i gwblhau rhai o’r eitemau data fwyaf cyffredin o fewn RegData, fel arian neu arian cleient a dychweliadau ased.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau cyfeirio data ar gyfer ein heitemau data.

Gofynion technegol

I gael mynediad i RegData, rydym yn argymell bod gennych:

  • Adobe Acrobat Reader 7.0 neu uwch (lawrlwythiad am ddim)
  • Google Chrome
  • ansawdd sgrin o 1280 x 1024 pixels
: Editorial amendment page updated as part of website refresh