Os oes gennych ymholiad, sylw neu gwyn ynglŷn â’r FCA, gallwch gysylltu â ni drwy ffurflen, e-bost neu ffôn.
On this page
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn y gwasanaethau a ddarparwn i'r cyhoedd yng Nghymru.
Darllenwch fwy am ein Cynllun iaith Gymraeg[1].
Ffoniwch ni
Os ydych eisoes wedi cysylltu â ni am bwnc neu fater, sicrhewch bod eich rhif cyfeirnod achos yn barod i'w ddarparu i ni.
Mae opsiwn iaith Gymraeg ar ein prif linellau cymorth ffôn i ddefnyddwyr a chwmnïau lle gall galwyr siarad â’r FCA yn Gymraeg. Caiff hyn ei hwyluso drwy wasanaeth cyfieithu ar y pryd ‘galw nol’, fydd yn cael ei gynnig ddim hwyrach na diwedd y diwrnod gwaith canlynol.
Defnyddwyr
- 0800 111 6768 (rhadffôn)
- 0300 500 8082 (o’r DU)
- +44 207 066 1000 (o dramor)
- (18001) 0207 066 1000 (gwasanaeth cyfnewid testun)
Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm a dydd Sadwrn 9am i 1pm.
Gallwch recordio galwadau llais at eich defnydd eich hun, ond ni ddylid cyhoeddi na rhannu recordiadau gydag unrhyw drydydd parti heb ein caniatâd.
Darganfyddwch fwy am:
- sut i gwyno[2] am gynnyrch neu wasanaeth ariannol
- llythyrau, galwadau ffôn, ac e-byst ffug FCA[3]
- Pa gwmnïau i'w hosgoi[4]
Cwmnïau
- 0300 500 0597 o'r DU
- +44 207 066 1000 o dramor
Rydym ar agor o ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener, 9am tan 5pm.
Rydym ar agor o ddydd Iau, 9.45am tan 5pm.
Os oes gennych rif cyfeirnod cwmni, sicrhewch fod hwn wrth law pan fyddwch yn ffonio.
Ar gyfer ymholiadau systemau neu ymgeisiadau, ffoniwch ni yn ystod ein horiau agor oherwydd efallai y bydd angen i ni eich dilysu.
E-bost
Gallwch ohebu yn Gymraeg ag unrhyw un o'n cyfeiriadau e-bost corfforaethol, ond rydym hefyd wedi sefydlu'r blwch post pwrpasol hwn, y gallwch gysylltu gydag am faterion cyffredinol yn ogystal â chwestiynau am ein gwasanaethau Cymraeg.
Ffurflen gyswllt
Nodyn: I gael mynediad i'r ffurflen gyswllt, bydd angen fersiwn gyfredol neu ddiweddar o borwyr rhyngrwyd arnoch fel Chrome, Microsoft Edge, Safari, Firefox neu Opera.
Ysgrifennwch atom
Prif swyddfa: Financial Conduct Authority, 12 Endeavour Square, London E20 1JN.
Os byddwn yn derbyn gohebiaeth yn Gymraeg, byddwn yn ymateb yn Gymraeg (os oes angen ateb).
Ein gwasanaethau hygyrchedd
Gallwn ddarparu gwybodaeth mewn gwahanol fformatau, megis recordiadau sain, print bras, neu gyfathrebu llafar. Cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
Rydym hefyd yn cyfieithu rhai o'n tudalennau mwyaf poblogaidd i'r Gymraeg, ond cysylltwch os oes angen gwybodaeth arnoch mewn iaith arall[6].
Darganfyddwch fwy am sut y gallwn addasu ein gwasanaeth i'ch cefnogi[7].
Gwybodaeth gyswllt arall
- Prif swyddogaethau'r farchnad[8]
- Swyddfa'r wasg (canolfan cyfryngau)[9]
- Digwyddiadau[10]
- Chwythu’r chwiban[11]
- Ceisiadau am lythyrau enw da (goodstanding) [12]
- Cwyno amdanom ni, y PRA a Banc Lloegr[13]
- Adborth gwefan[14]