Cynllun iawndal pensiwn British Steel

Mae'n bosib bod arian yn ddyledus i chi pe baech wedi cael cyngor gwael i drosglwyddo allan o Gynllun Pensiwn British Steel (BSPS). Dewch i wybod sut mae hyn yn cael ei gywiro. 

First published: 28/11/2022 Last updated: 20/03/2023 See all updates

Rydyn ni'n gwneud i gynghorwyr wirio'r cyngor a roddon nhw gan fod llawer o bobl a drosglwyddodd allan o'r cynllun pensiwn wedi cael y cyngor anghywir. 

Os oeddech chi'n un ohonyn nhw, fe allai arian fod yn ddyledus i chi, a bydd yn rhaid i'r cynghorydd dalu'r arian a golloch yn 61 i chi. Rydym yn galw hwn yn 'gynllun iawndal'. 

Cadwch lygad am lythyr gan eich cynghorydd. Mae'n bwysig eich bod yn darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y maen nhw'n gofyn amdani a sicrhau bod ganddynt fanylion cyfredol ar eich cyfer. 

Eich helpu i gael yr ymddeoliad y buoch chi'n gweithio amdano 

Rydym wedi gosod rheolau llym ynghylch sut y mae'n rhaid i gynghorwyr unioni pethau ar gyfer cyn-aelodau BSPS ac rydym yn monitro cynghorwyr yn agos i sicrhau ei fod yn digwydd. 

Rydym wedi datblygu cyfrifiannell  ar gyfer cynghorwyr i weithio allan a oes iawndal yn ddyledus i chi o dan y cynllun. I ddarganfod mwy am sut fydd hyn yn gweithio ewch i’n tudalen cyfrifo iawndal. 

Nod unrhyw arian a gewch yw eich rhoi yn 61 yn y sefyllfa ariannol y byddech wedi bod ynddi ar 61 ymddeol pe byddech wedi aros yn y BSPS. 

Y cwmni sydd wedi rhoi’r  cyngor i chi i drosglwyddo sy’n gyfrifol am unrhyw arian sy’n ddyledus i chi, hyd yn oed os nad yw’r cynghorydd yn gweithio yno mwyach neu os oes gennych chi gynghorydd gwahanol. 

Eich dewis chi yw sut i ddefnyddio’r arian i, ond dylech ystyried buddsoddi unrhyw daliad a dderbyniwch mewn  pensiwn personol. Mae gan MoneyHelper wybodaeth bellach ac arweiniad di-duedd ar bensiynau, gan gynnwys eu gwasanaeth pensiynau i bobl dros 50 oed. 

Ffoniwch ein llinell gymorth BSPS os oes gennych unrhyw gwestiynau a chofrestrwch i dderbyn diweddariadau BSPS drwy e-bost.

Llinell gymorth: 0800 098 4100

Beth fydd yn digwydd a phryd

1

Adolygu’r cyngor yn dechrau

2

Cael gwybod a oedd y cyngor yn anghywir

3

Cyfrifo'r hyn a allai fod yn ddyledus i chi

4

Gwneud cynnig o dâl i chi

5

Os caiff ei dderbyn – fe gewch yn ôl yr hyn sy'n ddyledus i chi

1. Adolygu’r cyngor yn dechrau

Bydd eich cynghorydd yn ysgrifennu atoch i ddweud eu bod yn mynd i adolygu eu cyngor. Dylech wneud yn siwr bod ganddynt eich manylion cyswllt cyfredol. 

Efallai y byddan nhw'n dweud wrthych nad yw'r cynllun iawndal yn berthnasol i chi ac yn egluro pam. Os ydych chi'n meddwl y dylech fod wedi cael eich cynnwys, gallwch gysylltu a Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Bydd eich cynghorydd yn ysgrifennu atoch rhwng 28 Chwefror a 28 Mawrth 2023. Os nad ydych wedi clywed gan eich cynghorydd erbyn 28 Mawrth, ffoniwch ni ar 0800 098 4100. 

2. Cael gwybod a oedd y cyngor yn anghywir

Pan fydd yr adolygiad wedi ei gwblhau, bydd y cynghorydd yn ysgrifennu i ddweud a oedd y cyngor yn addas ai peidio. Os ydych yn anghytuno, gallwn drefnu i'r Ombwdsmon Ariannol adolygu'r cyngor yn annibynnol. 

Byddwn hefyd yn gwylio cwmn"iau'n agos i wneud yn siwr eu bod yn adolygu cyngor yn iawn. Dylai hyn ddigwydd erbyn 28 Medi 2023

3. Cyfrifo'r hyn a allai fod yn ddyledus i chi

Os oedd y cyngor yn anghywir, bydd y cynghorydd yn cyfrifo'r hyn a allai fod yn ddyledus i chi. Efallai y byddan nhw'n gofyn i chi am fwy o wybodaeth i helpu gyda hyn. Rhaid i gynghorwyr ddefnyddio system a ddarperir gennym ni er mwyn cyfrifo beth yw'r ffigwr hwn. 

4. Gwneud cynnig o dâl i chi

Os yw eich cynghorydd yn cyfrifo bod arian yn ddyledus i chi, byddant yn ysgrifennu gyda chynnig o dal. Os ydych wedi gofyn am daliad lwmp swm, dylai hyn ddigwydd erbyn 28 Rhagfyr 2023

Os ydych wedi gofyn am daliad i'ch pensiwn, dylai hynny ddigwydd erbyn 28 Chwefror 2023

Mae gennych 3 mis i dderbyn y cynnig a wneir i chi. 

5. Cael yn ôl yr hyn sy'n ddyledus i chi

Os ydych yn derbyn y cynnig, mae'n rhaid i'r cynghorydd eich talu o fewn 28 diwrnod. Gall taliadau gymryd mwy o amser os cant eu cyfeirio at yr Ombwdsmon Ariannol neu'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS). 

Gallwch gyflwyno cwyn i’r Ombwdsmon Ariannol os ydych yn anhapus gyda: 

  • y ffordd  mae eich cynghorydd wedi asesu'r cyngor a gawsoch chi ganddyn nhw 
  • y taliad gafodd ei gynnig 
  • os nad ydynt wedi gwneud yr hyn a ddylent mewn pryd
Does dim rhaid i chi ddefnyddio cwmni rheoli hawliadau na chyfreithiwr. Os gwnewch chi, bydd yn rhaid i chi rannu unrhyw iawndal a gewch gyda nhw.

Beth os nad yw busnes eich cynghorydd yn weithredol bellach

Os nad yw busnes eich cynghorydd yn gweithredu mwyach, dylech wneud cais gyda'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol

Mae gan wefan FSCS restr o gwmnïau a roddodd gyngor BSPS ac nad ydynt yn masnachu mwyach, ynghyd a manylion am sut i wneud cais. Os yw'r FSCS yn canfod eich bod wedi cael cyngor gwael a bod arian yn ddyledus i chi, gallant eich digolledu hyd at £85,000. 

Rydym wedi rhoi rheolau yn eu lle i leihau’r risg o gynghorwyr yn mynd i’r wal yn ystod y cynllun. Mae hyn yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddwch yn derbyn y swm llawn o unrhyw arian sy’n ddyledus i chi. 

Pam y gallech gael eich eithrio

Mae nifer o resymau pam efallai na fyddwch yn cael eich cynnwys yn y cynllun iawndal. Gallai foci oherwydd: 

Gallwch ddewis peidio a chymryd rhan yn y cynllun iawndal. Bydd eich cynghorydd yn gofyn i chi pan maen nhw'n ysgrifennu atoch chi am y tro cyntaf. 

Os ydych chi'n optio allan mae'n bwysig deall, os byddwch chi'n newid eich meddwl yn ddiweddarach, y gallai foci yn rhy hwyr i gael unrhyw arian yn 61 oherwydd bydd y terfynau amser arferol ar gyfer gwneud cwyn yn berthnasol. 

Mae ein cynllun iawndal yn golygu bod yn rhaid i gynghorwyr adolygu'r cyngor a roddwyd i aelodau'r BSPS hyd yn oed os yw'r terfynau amser ar gyfer gwneud cwyn yn dod i ben ar 61 i'r cynllun ddechrau.

Os oes unrhyw bryderon gyda chi ynghylch sut mae eich cynghorydd yn ymdrin â’ch achos, neu unrhyw gwestiynau eraill ynglŷn â chael yr hyn sy’n ddyledus i chi yn ôl, cysylltwch â llinell gymorth BSPS: 

Neu dewch o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

: Editorial amendment page update as part of website refresh