Cynllun Pensiwn Dur Prydain – ein dull o orfodi

Darllenwch am ein hymchwiliadau i gwmnïau ac unigolion a ddarparodd gyngor anaddas i ddefnyddwyr drosglwyddo allan o Gynllun Pensiwn Dur Prydain (BSPS), yn ogystal â chynlluniau pensiwn â buddion wedi’u diffinio (DB) eraill. 

Mae pensiynau â buddion wedi’u diffinio (DB) yn cynnig incwm ymddeol gwarantedig. Mae’n ofynnol i bobl sydd am drosglwyddo allan o bensiwn o’r fath gael cyngor os yw’r pot yn werth mwy na £30k, er mwyn sicrhau bod hyn er eu budd nhw. Maent yn dibynnu ar gael cyngor o ansawdd uchel sy’n eu galluogi i wneud penderfyniad gwybodus.

Roedd Cynllun Pensiwn Dur Prydain (BSPS) yn arfer bod yn Gynllun Pensiwn DB. Trosglwyddodd tua 8,000 o bobl allan o’r BSPS, ac mae ein tystiolaeth yn awgrymu bod bron i hanner (46%) wedi gwneud hynny ar ôl derbyn cyngor anaddas.

Rydym wedi cynnal tua 30 o ymchwiliadau i gwmnïau ac unigolion ynghylch cyngor trosglwyddo DB sy’n ymwneud â BSPS. Mae’r ymchwiliadau bellach wedi’u cwblhau, ac rydym yn gweithio i ddod i benderfyniadau terfynol ar ba gosbau sy’n briodol lle rydym wedi canfod camymddwyn. 

Gwneud iawn am gyngor BSPS anaddas

Ochr yn ochr â’n hachosion gorfodi, rydym wedi bod yn sicrhau bod cyn-aelodau BSPS yn gallu cael iawndal am gyngor anaddas.

Mae dros 6,500 o gyn-aelodau wedi cael cefnogaeth gan Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS), Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) neu drwy gynllun unioni’r FCA. Mae £106m o iawndal bellach wedi’i gynnig i gyn-aelodau BSPS i’w rhoi yn ôl yn y sefyllfa y byddent wedi bod ar eu hymddeoliad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma ar ein camau gweithredu ar y cyd i helpu cyn-aelodau BSPS i gael yr ymddeoliad y buont yn gweithio ar ei gyfer.

Rydym hefyd wedi gweithredu lle mae cwmnïau wedi ceisio osgoi eu rhwymedigaethau a gwneud cynigion iawndal camarweiniol i ddefnyddwyr.

Ein dull o orfodi

Rydym wedi, ac yn parhau i gymryd camau gorfodi, lle mae tystiolaeth o gamymddwyn difrifol.

Rydym wedi gweld 2 prif fath o gamymddwyn mewn achosion BSPS:

  • Yn y rhan fwyaf o achosion, mae cwmnïau neu unigolion wedi torri’r egwyddor bod rhaid iddynt gynnal eu busnes gyda “sgil dyladwy, gofal a diwydrwydd”. Mae hyn yn golygu bod cynghorwyr wedi dangos diffyg cymhwysedd yn sylweddol gyda’u cyngor.
  • Mewn achosion mwy difrifol, mae cwmnïau neu gynghorwyr wedi torri’r egwyddor bod yn rhaid iddynt gynnal eu busnes “gyda gonestrwydd”. Mae hyn yn golygu eu bod wedi bod yn ddi-hid neu’n anonest yn y modd maent wedi delio â defnyddwyr a/neu’r FCA.

Mae’r camau gweithredol y gallwn eu cymryd yn cynnwys:

  • ceryddu cyhoeddus
  • cosbau ariannol
  • gwahardd cynghorwyr anaddas
  • cefnogi ymdrechion unioni ehangach

Mae pob un o'r ymchwiliadau'n gymhleth ac yn cynnwys dadansoddi nifer sylweddol o dystiolaeth, cyfweliadau gyda tystion allweddol ac adolygiadau o ffeiliau cwsmeriaid. Fe wnaethom ddatblygu teclyn (y DBAAT) i asesu addasrwydd y cyngor a ddarperir gan gwmnïau ac unigolion.

Camau gorfodi sydd wedi’u cwblhau

Mae’r tabl yma’n rhestru’r camau gorfodi sydd wedi’u nodi hyd yma a bydd yn cael ei ddiweddaru wrth i ni barhau â’n gwaith.

Efallai y bydd iawndal yn daladwy i ddefnyddwyr a bydd yn rhaid i’r FSCS ei dalu. Rydym wedi cymryd camau i sicrhau'r unioni mwyaf posibl sydd ar gael drwy sicrhau, lle bo'n briodol, fod y bobl yr ydym yn cymryd camau yn eu herbyn yn talu arian yn uniongyrchol i'r FSCS. Bydd hyn yn ysgafnhau'r galw ar yr FSCS ac yn sicrhau bod y partïon sy'n gyfrifol am y camymddwyn yn talu iawndal.

Enw Canlyniad Dyddiad Cyhoeddiad (Dolenni Saesneg yn unig)
Pembrokeshire Mortgage Centre Limited (mewn datodiad) Cosb ariannol o £2,354,331 1 Rhagfyr 2022

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol

Darren Reynolds

Active Wealth (UK) Limited (mewn datodiad)

Cosb ariannol o £2,212,316 a gwaharddiad

Mae Mr Reynolds wedi cyfeirio'r mater hwn at yr Uwch Dribiwnlys

2 Mai 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Penderfynu

Toni Fox

CFP Management Limited (mewn datodiad)

Cosb ariannol o £681,536 a gwaharddiad

Mae Mr Fox wedi cyfeirio’r mater hwn i’r Uwch Dribiwnlys

3 Mai 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Penderfynu

David Brian Price

CFP Management Limited (mewn datodiad)

 

Cosb ariannol o £632,594

Mae Mr Price wedi cyfeirio’r mater hwn i’r Uwch Dribiwnlys

3 Mai 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Penderfynu

Lighthouse Advisory Services Limited Ceryddu cyhoeddus 12 Mai 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol

Mark Antony Abley

County Capital Wealth Management Limited (mewn datodiad)

Taliad o £106,100 yn daladwy i’r FSCS

Gwaharddiad o ddarparu gwybodaeth ar Drosglwyddiadau Pensiwn

22 Mehefin 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol

Paul Steel

Estate Matters Financial Limited (mewn datodiad)

Taliad o £850,000 yn daladwy i’r FSCS a gwaharddiad 26 Mehefin 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol

Denis Lee Morgan

Pembrokeshire Mortgage Centre Limited (mewn datodiad)

Gwaharddiad rhag cyflawni Uwch Swyddogaethau Rheoli ac o ddarparu cyngor ar Drosglwyddiadau Pensiwn 26 Mehefin 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol

Andrew Allen

Mansion Park Limited (mewn datodiad)

Taliad o £85,606 yn daladwy i’r FSCS

Gwaharddiad rhag darparu cyngor ar Drosglwyddiadau Pensiwn

24 Awst 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol

Keith Dickinson

Mansion Park Limited (mewn datodiad)

Taliad o £70,000 yn daladwy i’r FSCS

Gwaharddiad rhag darparu cyngor ar Drosglwyddiadau Pensiwn

7 Medi 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol

Simon Richard Hughes

S&M Hughes Limited (mewn datodiad)

Taliad o £158,600 yn daladwy i’r FSCS

Gwaharddiad rhag cyflawni Uwch Swyddogaethau Rheoli ac o ddarparu cyngor ar Drosglwyddiadau Pensiwn

22 Medi 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol

Andrew Deeney

Active Wealth (UK) Limited (mewn datodiad) Fortuna Wealth Management Limited (mewn datodiad)

Cosb ariannol o £397,400 a gwaharddiad 28 Medi 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Teryfynol

Geoffrey Edward Armin

Retirement and Pension Planning Services Limited (wedi’i ddiddymu)

Taliad o £200,000 yn daladwy i’r FSCS

Gwaharddiad rhag cyflawni Uwch Swyddogaethau Rheoli ac o ddarparu cyngor ar Drosglwyddiadau Pensiwn

3 Tachwedd 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol

David Nigel Lewis

West Wales Fincancial Services Limited (mewn datodiad)

Taliad o £26,800 yn daladwy i’r FSCS

Gwaharddiad rhag cyflawni Uwch Swyddogaethau Rheoli ac o ddarparu cyngor ar Drosglwyddiadau Pensiwn

24 Tachwedd 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol

Susan Mary Jones

West Wales Financial Services Limited (mewn datodiad)

Taliad o £40,888 yn daladwy i’r FSCS

Gwaharddiad o ddarparu cyngor ar Drosglwyddiadau Pensiwn

24 Tachwedd 2023

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol

Inspirational Financial

Management Limited (yn nwylo gweinyddwyr)

Cosb ariannol o £897,840 11 Mawrth 2024

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol

William Hofstetter

Inspirational Financial Management Limited (yn nwylo gweinyddwyr)

Taliad o £40,000 yn daladwy i’r FSCS

Gwaharddiad rhag cyflawni Uwch Swyddogaethau Rheoli ac o ddarparu cyngor ar Drosglwyddiadau Pensiwn

11 Mawrth 2024

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol

Arthur Jonathan Cobill

Inspirational Financial Management Limited (yn nwylo gweinyddwyr)

Taliad o £120,000 yn daladwy i’r FSCS

Gwaharddiad rhag darparu cyngor ar Drosglwyddiadau Pensiwn

11 Mawrth 2024

Datganiad i’r wasg

Hysbysiad Terfynol