Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (yr FCA) wedi cyhoeddi’r dadansoddiad diweddaraf o’i arolwg Financial Lives heddiw. Mae adroddiad heddiw’n canolbwyntio ar sefyllfa ariannol pobl ar hyd a lled y DU ac yn tynnu sylw at ble yn y DU y gallai pobl fod mewn sefyllfa fregus.
Mae arolwg heddiw’n gweld bod 55% o bobl yng Nghymru mewn sefyllfa a allai fod yn fregus, o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 50%.
Financial Lives yw arolwg yr Awdurdod o bron i 13,000 o oedolion, a dyma’r arolwg olrhain mwyaf yn y DU sy’n edrych yn benodol ar ddefnyddwyr a sut maen nhw’n defnyddio gwasanaethau ariannol.
Mae’r adroddiad yn dangos nifer o wahaniaethau ym mhrofiadau pobl mewn gwahanol rannau o’r DU, gan gynnwys Cymru, o ran gwasanaethau ariannol, er enghraifft:
- Mae’r ddyled gyfartalog ar forgais i bobl sydd â morgais yn is yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol (£104,000 o gymharu â £126,000 ar gyfartaledd yn y DU).
- Mae llai o bobl yng Nghymru yn defnyddio canghennau banc yn rheolaidd. Mae 33% o oedolion yng Nghymru’n defnyddio canghennau banc yn rheolaidd o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 40%. Mae mwy a mwy o ddefnyddwyr canghennau’n disgrifio mynediad i’w cangen fel ‘anghyfleus’ (17% o gymharu â chyfartaledd y DU sef 13%). Fodd bynnag, mae cyfran uwch o oedolion yng Nghymru’n defnyddio bancio ar-lein (76% o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 72%) a bancio dros y ffôn (24% o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 20%).
- Mae gan gyfran uwch o oedolion yng Nghymru fenthyciadau personol o gymharu â rhannau eraill o’r DU, ac mae cyfran uwch na’r cyfartaledd yn defnyddio credyd catalog i fenthyca. Mae gan 16% o oedolion yng Nghymru fenthyciad personol o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 12% ac mae 9% yn benthyca drwy ddefnyddio credyd catalog, o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 5%.
- Mae 10% o oedolion yng Nghymru mewn trafferthion ariannol, ac mae gan 17% orddyled. Mae’r ffigurau hyn yn debyg i gyfartaledd y DU.
- Ar gyfartaledd, mae gan oedolion yng Nghymru ddyledion diwarant o £3,500. Mae hyn yn uwch na’r cyfartaledd o £3,320 o ddyled sydd gan oedolion yng ngweddill y DU.
Dywedodd Andrew Bailey, Prif Weithredwr yr FCA: 'Mae’r arolwg hwn yn dangos pa mor wahanol yw profiadau defnyddwyr o wasanaethau ariannol ledled y wlad. Mae hynny’n bwysig i ni, wrth i ni lunio polisi gwasanaethau ariannol. Ond mae hefyd yn bwysig i gwmnïau, wrth iddyn nhw benderfynu ar y ffordd orau i wasanaethu eu cwsmeriaid.'
Mae’r FCA wedi rhyddhau tablau data wedi’i bwysoli sy’n rhoi manylion am ganfyddiadau'r arolwg er mwyn i bobl sy’n gwneud penderfyniadau’n lleol a sefydliadau eraill allu defnyddio’r wybodaeth i ystyried beth gallan nhw ei wneud i helpu i gefnogi’r bobl a all fod yn cael anawsterau ariannol. Roedd adroddiad blaenorol Financial Lives yr FCA yn adrodd y stori ariannol ar gyfer chwe gwahanol grŵp oedran er mwyn dangos y prif themâu yn ystod pob cam o fywyd.
Notes to editors
- Darllenwch adroddiad yr FCA ar gyfer Mehefin 2018, The financial lives of consumers across the UK
- Darllenwch adroddiad Financial Lives 2017, Understanding the financial lives of UK adults
- Mae sefyllfa a allai fod yn fregus yn cyfeirio at yr oedolion hynny a allai ddioddef yn annheg pe bai pethau’n mynd o chwith oherwydd bod ganddyn nhw lai o wytnwch ariannol. Mae hefyd yn cynnwys y rheini a allai fod yn llai galluog i ymwneud â’u cyllid neu â gwasanaethau ariannol. Gall y rhesymau dros hyn amrywio o ddioddef digwyddiad diweddar mewn bywyd (fel dileu swydd, profedigaeth neu ysgariad), gallu ariannol isel, neu broblem iechyd sy’n effeithio llawer ar weithgareddau unigolyn o ddydd i ddydd. Nid yw’r ffaith bod unigolyn yn cael ei ddiffinio fel rhywun sydd mewn sefyllfa a allai fod yn fregus yn golygu y bydd yn dioddef niwed o anghenraid.
- Mae ‘mewn trafferthion’ yn cyfeirio at oedolion sydd leiaf cydnerth yn ariannol, gan eu bod eisoes wedi peidio â thalu bil domestig neu fodloni ymrwymiadau credyd mewn o leiaf tri o’r chwe mis diwethaf.
- Diffinnir gorddyled fel baich sylweddol o ran parhau i dalu biliau domestig ac ymrwymiadau credyd, neu fethu unrhyw ymrwymiadau credyd a/neu fethu â thalu unrhyw filiau domestig mewn unrhyw dri o’r chwe mis diwethaf.
- Ar 1 Ebrill 2013, daeth yr FCA yn gyfrifol am oruchwylio ymddygiad yr holl gwmnïau ariannol a reoleiddir a goruchwylio darbodus y rheini nad ydynt yn cael eu goruchwylio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA).
- Amcan strategol cyffredinol yr FCA yw sicrhau bod y marchnadoedd perthnasol yn gweithredu’n dda. Mae ganddo dri amcan gweithredol i gefnogi hyn: sicrhau lefel briodol o warchodaeth i ddefnyddwyr; gwarchod a gwella uniondeb system ariannol y DU; a hyrwyddo cystadleuaeth effeithiol er budd defnyddwyr.
- Rhagor o wybodaeth am yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.