Darllenwch am sut i ddefnyddio Connect er mwyn gwneud ceisiadau a hysbysiadau i ni.
Connect yw ein system ar-lein y gellir ei ddefnyddio i wneud ceisiadau a hysbysiadau ar gyfer:
- unigolion sydd wedi eu cymeradwyo
- cynrychiolwyr penodedig
- ceisiadau AIFMD
- adroddiad ased cleient blynyddol (yn unol â SUP 3)
- gweinyddwyr meincnod
- canslo awdurdodiad neu gofrestriad cwmni
- newid mewn hysbysiadau rheoli (os yw eich cwmni wedi’i reoleiddio gan yr FCA yn unig)
- rheoli hawliadau
- cofrestru prynu-i-osod i ddefnyddwyr
- sefydliadau arian electronig: awdurdodi, cofrestru neu ganslo
- manylion cwmni ac ardystiad
- hysbysiadau MiFID II
- Rheoleiddio Gwyngalchu Arian Cofrestriadau Newydd
- Hysbysiadau NPPR (ac eithrio cronfeydd marchnata EEA AIFM(au) o dan Rheoliad 57)
- Hysbysiadau Newidiadau Sylweddol NPPR (ac eithrio cronfeydd marchnata EEA AIFM(au) o dan Rheoliad 57)
- caniatâd rhan 4A (mae'n rhaid i gwmnïau rheoledig deuol ddefnyddio'r ffurflenni papur o hyd)
- sefydliadau ariannol: awdurdodi, cofrestru neu ganslo
- asiantau PSD: ychwanegu, diwygio neu ddileu
- Hysbysiadau PSD2
- enwau busnes sensitif
- cyfnewid ariannol amheus ac adroddiadau archebion (STORs)
- amrywio caniatâd
- ildiad (waivers) a chaniatâd crr
Os ydych yn ceisio cyflwyno data rheoliadol byddwch angen defnyddio RegData. Dyma ein platfform casglu data newydd ar gyfer casglu data rheoleiddiol gan gwmnïau. Mae RegData wedi disodli ein system Gabriel.
Os hoffech weld eich cyfrif ffioedd neu dalu ffioedd ar-lein, bydd angen i chi ddefnyddio ein porth anfonebu ar-lein newydd.
Mewngofnodi i Connect Sut i gofrestru
I ailosod eich cyfrinair, dewiswch y ddolen 'wedi anghofio cyfrinair' ar dudalen mewngofnodi Connect.
Er mwyn ailosod eich cyfrinair, ffoniwch 0300 500 0597 o’r DU, neu +44 207 066 1000 o dramor i siarad gyda goruchwyliwr fel y gallwn ailosod y cyfrinair i chi.
Cyn galw, sicrhewch mai chi yw defnyddiwr cofrestredig Connect, gan y bydd angen i ni gadarnhau eich hunaniaeth a chwblhau gwiriadau diogelwch y cyfrif cyn y gallwn ailosod eich cyfrinair.
Dilysu aml-ffactor
Rydym wedi gwella sut rydych yn mewngofnodi i Connect i warchod a rheoli mynediad i’n data ymhellach. Bydd angen i chi rŵan fewnbynnu cyfrinair un-tro pob tro yr ydych yn ceisio mewngofnodi. Gweler ein tudalen adnoddau am fwy o wybodaeth.
Olrhain cais
Bydd yr amser a gymerir i asesu eich cais yn dibynnu a yw popeth wedi’i gynnwys, yn gyflawn ac yn glir.
Gallwch olrhain cynnydd cais o fewn Connect.
- Mewngofnodwch i Connect.
- Cliciwch ar adran 'My applications' ar y dudalen gartref.
- Cliciwch ar y cais perthnasol i olrhain ei gynnydd.
Unwaith yr ydych wedi gwneud cais ar Connect, byddwn yn cysylltu â chi o fewn 3 wythnos, fel arfer i’ch hysbysu pa swyddog achos rydym wedi’i neilltuo ar gyfer eich cais neu i’ch hysbysu o’r dyddiad y byddwn yn aseinio eich cais.
Pan fydd swyddog achos yn cael ei aseinio i’ch cais, byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost a hysbysiad o fewn Connect.
Dylai eich cais gael ei gwblhau yn unol â’n gyda’n cytundebau lefel gwasanaeth (SLA) y gellir dod o hyd iddynt o fewn Connect. Gellir dod o hyd i SLAau penodol o fewn adran ‘Fy Ngheisiadau’.
Darganfyddwch fwy am geisiadau am awdurdodiad.
Porwyr rhyngrwyd sydd wedi’u cefnogi
Er mwyn cael mynediad i Connect, bydd angen fersiwn gyfredol neu ddiweddar o borwyr fel:
- Chrome (lawrlwytho neu ddiweddaru)
- Microsoft Edge (lawrlwytho neu ddiweddaru)
- Safari (lawrlwytho neu ddiweddaru)
- Firefox (lawrlwytho neu ddiweddaru)
Diwedd y cyfnod pontio
Mae’r DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) ac mae’r cyfnod pontio wedi dod i ben. Lle mae unrhyw un o'n ffurflenni yn dal i gynnwys cyfeiriadau at yr UE, gweler ein canllaw ar gwblhau ein ffurflenni ar ôl i'r DU adael yr UE.