My FCA

Mae My FCA yn borth newydd ar gyfer cwmnïau cofrestredig ac awdurdodedig. Mewngofnodwch gyda’ch manylion presennol ar gyfer derbyn mynediad uniongyrchol i Connect a thasgau wedi’u trefnu gan RegData. 

Ychwanegwch https://myfca.fca.org.uk at restr caniatáu eich cwmni o wefannau dibynadwy a'i nodi fel bookmark ar dudalen eich porwr. 

Beth allwch chi ei wneud yn My FCA

  • Cysylltu’n uniongyrchol i ffurflenni rheoleiddio y mae angen i chi gyflwyno yn RegData a thystysgrifau y mae angen i chi gwblhau yn Connect.
  • Cael mynediad i Connect, RegData a System Anfonebu Ar-lein, os oes gennych fynediad.
  • Darllen hysbysiadau system a diweddariadau rheoleiddiol gan gynnwys Crynodeb Rheoleiddio.
  • Edrych ar y rheolau a'r canllawiau yn ein Llawlyfr.
  • Gwirio eich cwmni a chwmnïoedd eraill ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol.
  • Cyfrifo eich ffi flynyddol gan ddefnyddio ein Cyfrifiannell Ffioedd.

Sut mae My FCA yn gweithio

  • Gall defnyddwyr Connect, RegData a System Anfonebu Ar-lein sydd wedi’u cofrestru ar gyfer dilysu aml-ffactor fewngofnodi i MY FCA gan ddefnyddio eu manylion presennol.
  • Mae eich tasgau sydd angen eu cwblhau mewn un lle gyda dyddiad cwblhau a statws. Gallwch weld beth sydd angen ei gwblhau ar gyfer eich cwmni a phryd am y 14 mis nesaf.
  • Cysylltu tasgau sydd wedi’u trefnu’n uniongyrchol i Connect a RegData, os oes gennych fynediad i’r system ac i’r dasg.
  • Llywio i ac o My FCA a’r systemau y mae gennych fynediad atynt heb orfod mewngofnodi eto.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

  • Nid yw’n orfodol mewngofnodi trwy My FCA ond rydym yn eich annog i ddefnyddio My FCA i gwblhau eich tasgau a drefnwyd.
  • Nid oes unrhyw newid i derfynau amser cwblhau adroddiadau ac ardystiadau eich cwmni oherwydd My FCA.
  • Byddwch yn dal i dderbyn negeseuon e-bost atgoffa gan RegData, Connect a System Anfonebu Ar-lein.
  • Bydd rheoli defnyddwyr yn aros ym mhob system. Dylid anfon unrhyw geisiadau mynediad ar gyfer RegData a Connect at y Prif Ddefnyddiwr. Ar gyfer System Anfonebu Ar-lein, mae angen cod dilysu unigryw eich cwmni arnoch.
  • Byddwn yn ychwanegu mwy o nodweddion dros amser at My FCA.

Pryd y gallwch ddefnyddio My FCA

Dydd Llun i ddydd Gwener o 7am to 10pm 
Dydd Sadwrn a dydd Sul o 8am to 5pm 

Mewngofnodi i My FCA

FCA explains: Welcome to My FCA