Mae ‘person cymeradwy’ yn unigolyn yr ydym yn ei gymeradwyo i wneud un neu fwy gweithgaredd – yr hyn yr ydym yn ei alw’n ‘swyddogaethau rheoledig’ – ar gyfer cwmni awdurdodedig.
Mae’n rhaid i’r person hwn wybod a bodloni ein gofynion rheoledig, ynghyd â deall sut yr ydym yn eu gweithredu.
Mae’n rhaid iddynt:
- fodloni gofynion ein prawf ‘ffit ac addas’ a dilyn ei egwyddorion
- cydymffurfio â’r Datganiadau o Egwyddor a’r Cod Ymarfer (mae’r rhain yn egluro’r ymddygiad yr ydym yn ei ddisgwyl gan bobl yr ydym yn eu cymeradwyo)
- adrodd unrhyw beth a allai effeithio ar eu haddasrwydd parhaus i ni a’r cwmni awdurdodedig (drwy Ffurflen D (PDF))
Dim ond pobl yr ydym yn fodlon eu bod yn ffit ac yn addas i ymgymryd â’r swyddogaeth(au) rheoledig y maent yn ymgeisio amdanynt y gallwn eu cymeradwyo. Darllenwch ragor am y prawf ‘ffit ac addas’.
Byddwn am gymeradwyo o leiaf un person mewn cwmni credyd defnyddwyr pan yw’n ymgeisio i gael ei awdurdodi.
Ni all unigolion ymgymryd â gweithgareddau rheoledig heb awdurdod hyd nes y byddant wedi’u hasesu i fod yn gymwys.
Mae’n debyg y bydd angen i unrhyw un sy’n ymdrin â chwsmeriaid gael eu cymeradwyo. Bydd y rhan fwyaf o gynghorwyr (e.e. cynghorwyr ariannol a manwerthu, rheolwyr buddsoddi) angen cymeradwyaeth. Nid oes angen i’r rhan fwyaf o ddarparwyr cyngor dyledion nid-er-elw a rhai unig fasnachwyr gael person cymeradwy.
Cwmnïau credyd defnyddwyr
Hefyd, mae gennym wybodaeth am bersonau cymeradwy ar gyfer cwmnïau credyd defnyddwyr.