PS24/8: Mynediad at arian parod

Consultation opened
07/12/2023
Consultation closed
08/02/2024
Policy Statement
24/07/2024
24/07/2024

Rydym yn gosod y rheolau terfynol ar gyfer ein trefn cael mynediad at arian parod. Daw’r rheolau newydd i rym ar 18 Medi 2024. 

llinell amser (PDF)

Yr hyn rydym yn ei newid

Mae ein trefn rheoleiddio newydd yn ei gwneud yn ofynnol i fanciau a chymdeithasau adeiladu a ddynodwyd gan y Llywodraeth i asesu a llenwi bylchau, neu fylchau posib, yn y ddarpariaeth o gael mynediad at arian parod sy’n cael effaith sylweddol ar ddefnyddwyr a busnesau. 

Rydym yn cyflwyno’r newidiadau hyn gan fod y Senedd wedi rhoi cylch gwaith newydd a phwerau i ni i ‘geisio sicrhau darpariaeth resymol’ o wasanaeth bancio arian parod ar gyfer cyfrifon cyfredol personol a busnes ledled y DU. Mae hyn yn cynnwys mynediad at arian parod a darnau arian, a mynediad sy’n rhad ac am ddim i ddefnyddwyr sydd â chyfrifon personol cyfredol.

Ym mis Rhagfyr 2023, fe wnaethom ymgynghori ar sefydlu trefn reoleiddio ar gyfer mynediad at arian parod. Rydym wedi ystyried yr holl adborth yn ofalus wrth geisio cwblhau ein rheolau a’n canllawiau.

Ar gyfer pwy y mae hwn

Mae’r Datganiad Polisi hwn yn berthnasol i:

  • gwmnïau a chyrff cydgysylltu a ddynodwyd gan y Trysorlys o dan Ran 8B o FSMA 2000, gan y bydd rhaid iddynt gydymffurfio â’r rheolau
  • busnesau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â mynediad at arian parod a gweithredu cyfleusterau arian parod, gan gynnwys darparwyr cyfrifon cyfredol personol sydd heb eu dynodi, ac sydd â dros 10 o ganghennau, Swyddfa’r Post a gweithredwyr systemau talu sy’n darparu arian yn ôl drwyddynt (cashback), gan y gallent fod yn ddarostyngedig i geisiadau newydd am wybodaeth

Bydd hefyd o ddiddordeb i gwmnïau sy’n darparu cyfrifon cyfredol i gwsmeriaid personol neu fusnes; defnyddwyr a busnesau sy’n dibynnu ar arian parod a grwpiau sy’n cynrychioli eu buddiannau, grwpiau diwydiant / cyrff masnach a chynrychiolwyr etholedig.

Camau nesaf

Bydd ein rheolau yn dod i rym ar 18 Medi 2024. 

Rhaid i’r cwmnïau a ddynodwyd gan y Llywodraeth, ac sydd felly yn syrthio dan ein trefn darparu mynediad at arian parod:

  • nodi bylchau yn y ddarpariaeth arian parod
  • asesu ystod eang o anghenion lleol

darparu gwasanaethau sy’n rhoi mynediad at arian parod ychwanegol yn brydlon os bydd asesiadau yn canfod bwlch sylweddol yn y ddarpariaeth

Lle mae cwmnïau eisoes wedi cyhoeddi y bydd gwasanaethau sy’n rhoi mynediad at arian parod yn cau cyn i’n rheolau ddod i rym, ni fydd y rhain yn ddarostyngedig i’r drefn reoleiddio newydd.

Fodd bynnag, ni ddylai cwmnïau ruthro’r broses o gau cyn 18 Medi. O dan FG22/6: Canllawiau cau neu drosi canghennau a pheiriannau ATM, dylai cwmnïau gyfathrebu gyda’u cwsmeriaid ynghylch cau o leiaf 12 wythnos cyn i hynny ddod i rym.

Cefndir

Rydym wedi gweld arloesi a newid sylweddol yn y ffyrdd y gall ddefnyddwyr dalu, a busnesau dderbyn taliadau. Mae hyn wedi’i ysgogi gan:

  • arloesi mewn taliadau
  • newidiadau yn ymddygiad cwsmeriaid

Er y gall yr ystod gynyddol o wasanaethau digidol ac opsiynau talu wneud bywyd yn haws, i lawer, mae’r gallu i godi arian parod yn parhau i fod yn hanfodol. Mae arian parod yn dal i fod yn arbennig o bwysig i ddefnyddwyr sy’n fregus, a llawer o fusnesau bach.

Felly, mae’n bwysig i ni reoli graddfa ac effaith y newid, a sicrhau bod defnyddwyr yn derbyn y cymorth priodol gan eu banc.