Mae cwmnïau yn defnyddio ein porth anfonebu ar-lein i gael mynediad i’w hanfonebau, talu eu ffioedd a mwy. Y porth yw’r ffordd fwyaf effeithlon ac ecogyfeillgar i ni gyfathrebu â chwmnïau. Darganfyddwch sut i gofrestru a mewngofnodi isod.
Bydd angen i chi gofrestru er mwyn defnyddio’r porth. Yna gallwch chi:
- dalu eich ffioedd blynyddol
- weld ac argraffu eich anfonebau, nodiadau credyd, datganiadau a thaliadau
- gosod debyd uniongyrchol
- cyflwyno data tariff ffi
- derbyn hysbysiadau e-bost pan fydd eich anfoneb wedi’i greu
- gofyn am gopi PDF o’ch anfoneb
- defnyddio gwasanaethau eraill, e.e cofrestru defnyddwyr ychwanegol
Os ydych eisoes wedi cofrestru, rydym yn argymell defnyddio Google Chrome i fewngofnodi:
Os nad yw eich cwmni wedi cofrestru eto
Bydd cwmnïau newydd sy’n gymwys i dalu ffioedd FCA yn derbyn e-bost gyda manylion am sut i gofrestru. Os nad ydych yn derbyn e-bost o fewn pythefnos, e-bostiwch [email protected] er mwyn gwneud cais am god dilysu unigryw eich cwmni fel bod posib i chi gofrestru.
Yn yr un modd, os nad yw’ch cwmni wedi’i gofrestru ar hyn o bryd ac yn dymuno cofrestru rŵan, e-bostiwch [email protected] er mwyn gwneud cais am god dilysu unigryw eich cwmni. Dylech gynnwys rhif anfoneb ddiweddaraf y cwmni os ydyw gennych chi.
Mae ein canllaw cofrestru yn egluro’r broses gofrestru, sy’n amrywio yn dibynnu os ydych yn ddefnyddiwr Connect.
Bydd cyfathrebiadau ac anfonebau ffioedd yn cael eu gyrru i gwmnïau nad ydynt wedi cofrestru trwy’r post. Rydym yn codi £50 y flwyddyn am ein gwasanaeth papur (bydd hyn yn cael ei gynnwys yn eich anfoneb ffioedd). Am fwy o wybodaeth gweler hysbysiad llawlyfr HN74, (paragraffau 3.35–3.40).
Ar ôl cofrestru
Gallwch gyfeirio at ein hanfonebu ar-lein:
- canllaw defnyddiwr am gymorth wrth ddefnyddio’r porth
- canllaw i faterion pop-up
- telerau ac amodau
Unwaith y bydd gennych fynediad i un cwmni, gallwch ychwanegu cwmnïau ychwanegol gan ddefnyddio'r dudalen 'Rheoli Cwmnïau'. Bydd angen cod dilysu unigryw 12 nod y cwmni newydd arnoch i gwblhau’r broses hon, gall defnyddwyr presennol ofyn amdano o dudalen gartref y porth. Bydd yn cael ei e-bostio atynt ar unwaith. Bydd angen i bob defnyddiwr ychwanegol hunangofrestru i gael mynediad i'r cais ar-lein.
Os nad yw eich cwmni bellach eisiau defnyddio’r porth, gallwch ddiffodd eich mynediad gan ddefnyddio’r tudalennau ‘Rheoli Cwmnïau a Chysylltiadau' neu e-bostio [email protected].
Dilysu aml-ffactor
Rydym wedi gwella sut rydych chi'n mewngofnodi i anfonebu ar-lein i ddiogelu a rheoli mynediad i'n data ymhellach. Bydd angen i chi nodi cod tocyn un-amser bob tro y byddwch chi'n mewngofnodi o hyn ymlaen. Gweler ein tudalen adnoddau am fwy o wybodaeth.
Cywiro enw eich cyfrif
Roedd rhai defnyddwyr wedi'u cofrestru'n awtomatig ar gyfer anfonebu ar-lein cyn mis Ebrill 2021 a rhoddwyd iddynt enw defnyddiwr 'defnyddiwr diofyn'. Mae'n bwysig eich bod yn newid hyn i enw'r unigolyn y mae'r cyfrif yn perthyn iddo. Mae tudalen rhif saith ein canllaw defnyddiwr yn egluro sut i ddiweddaru manylion personol.
Negeseuon e-bost oddi wrthym
Efallai y byddwn yn anfon negeseuon e-bost atoch o unrhyw un o’r cyfeiriadau yma - bydd rhaid i chi eu caniatáu nhw fel nad yw ein negeseuon e-bost yn mynd i’ch ffolder sbwriel (junk/spam):
Cwmnïau sydd newydd eu hawdurdodi
Mae anfoneb ffioedd ac ardollau rheoleiddio cyntaf eich cwmni yn cwmpasu'r mis y cafodd eich cwmni ei awdurdodi hyd at 31 Mawrth (y flwyddyn ffioedd cyfnodol yw 1 Ebrill i 31 Mawrth).
Byddwch yn cael gostyngiad yn dibynnu ar ba fis roedd eich cwmni wedi awdurdodi (gweler isod) ac rydym yn codi rhai ffioedd ar ran sefydliadau eraill.
Talu eich anfoneb ar-lein
Rydym yn derbyn taliadau trwy gardiau debyd, credyd, Maestro neu American Express.
Gallwch hefyd sefydlu mandad debyd uniongyrchol ar-lein. Yna byddwn yn casglu eich ffioedd yn llawn ac yn awtomatig ar ddyddiad dyledus yr anfoneb neu'n fuan ar ôl hynny.
Gwrthwynebu anfoneb
Os byddwch yn cyflwyno anghydfod drwy'r porth, byddwch yn derbyn hysbysiad yn cadarnhau ein bwriad i ymateb o fewn 12 diwrnod (yn unol â'n safonau lefel gwasanaeth y cytunwyd arnynt).
Os yw’ch anghydfod yn ymddangos fel 'pending review', mae hyn yn golygu nad yw’r unigolyn sy’n trin eich cyfrif wedi ymateb eto. Os oes angen diweddariad arnoch, e-bostiwch [email protected].
Trwy wrthod anfoneb cyn gynted ag y byddwch yn ei derbyn, gall yr unigolyn sy’n trin eich cyfrif ymateb cyn dyddiad dyledus yr anfoneb. Os byddwch yn codi’r anghydfod ychydig cyn dyddiad dyledus yr anfoneb, bydd yn rhaid i chi dalu’r anfoneb yn llawn (ond gallwn eich ad-dalu yn nes ymlaen os yw’r anfoneb yn anghywir).
Os na ellir datrys anghydfod, bydd ein pwyllgor credyd yn ei ystyried i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gyson â'n rheolau ffioedd. Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad, anfonwch e-bost atom a’i nodi ar gyfer sylw’r Rheolwr, Gweithrediadau Refeniw.
Gallwch wneud cwyn ffurfiol drwy ein cynllun cwynion.
Gweld anfonebau a dalwyd cyn 31 Mawrth 2021
Ar y porth, ni allwch weld na lawrlwytho anfonebau a dalwyd cyn 31 Mawrth 2021. Fodd bynnag, gallwch weld neu lawrlwytho datganiad cyfrif 3 blynedd o'r dudalen 'Gweithgaredd Cyfrif', sy'n crynhoi'r holl drafodion ffioedd a thaliadau hyd at 31 Mawrth 2021.
Os ydych angen mwy o gymorth
Os oes gennych gwestiwn am eich anfoneb neu wrth wneud taliad, neu os oes angen help arnoch, e-bostiwch [email protected].