My FCA Telerau ac Amodau

Darllenwch y telerau defnydd hyn yn ofalus cyn defnyddio My FCA a Connect, RegData a’r System Anfonebu Ar-lein.

Beth sydd yn y telerau hyn?

Mae’r telerau hyn yn nodi’r rheolau sy’n berthnasol i unrhyw sefydliad (neu yn berthnasol, i unrhyw ddefnyddiwr unigol sy’n gysylltiedig â’r sefydliad hwnnw) (“Chi”) sy’n defnyddio pob un o’r gwefannau canlynol a’r systemau sydd ar gael ar y gwefannau hynny, sef: myfca.fca.org.uk (My FCA), regdata.fca.org.uk (RegData), connect.fca.org.uk (Connect), neu fees.fca.org.uk (System Anfonebu Ar-lein) (gyda’n gilydd ein “Systemau Ar-lein”).

Pwy ydyn ni a sut i gysylltu â ni

Mae’r Systemau Ar-lein yn cael eu gweithredu gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu ei drydydd partïon awdurdodedig (“NiacEin”).

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 01920623 ac mae’r swyddfa gofrestredig yn 12 Endeavour Square, Llundain, E20 1JN (“FCA”).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Telerau ac Amodau hyn, Cysylltwch â Ni.

Trwy ddefnyddio’r Systemau Ar-lein rydych yn derbyn y telerau hyn

Trwy barhau i ddefnyddio ein Systemau Ar-lein, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw.

Os nad ydych yn cytuno â’r telerau hyn, ni ddylech ddefnyddio’r Systemau Ar-lein.

Mae telerau eraill sy’n berthnasol i Chi

Mae’r telerau ychwanegol hyn yn berthnasol i’ch defnydd o’r Systemau Ar-lein:

  • Ein Polisi Preifatrwydd, sy’n esbonio sut rydym yn casglu, defnyddio a storio eich data personol.
  • Polisïau neu hysbysiadau cwcis cymwys, sy’n nodi gwybodaeth am y cwcis ar y Systemau Ar-lein a gellir eu gweld yma:
    • Hysbysiad Cwci RegData;
    • Polisi Cwci Connect;
    • Polisi Cwci System Anfonebu Ar-lein; a
    • Hysbysiad Cwci My FCA.
  • Unrhyw delerau gwasanaeth Systemau Ar-lein penodol sydd ar gael ar y System Ar-lein honno neu fel y nodir yn y telerau hyn.

Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i’r telerau hyn

Efallai y byddwn yn diwygio’r telerau hyn o bryd i’w gilydd. Pob tro y dymunwch ddefnyddio’r Systemau Ar-lein, gwiriwch y telerau yma i sicrhau eich bod yn deall y telerau sy’n berthnasol ar yr adeg hynny.

Dylech gadw manylion eich cyfrif yn ddiogel

Os byddwch yn dewis, neu os ydych yn derbyn cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, rhaid i chi drin y wybodaeth honno’n gyfrinachol. Ni ddylech ei ddatgelu i unrhyw drydydd parti.

Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw god neu gyfrinair adnabod defnyddiwr, p’un ac ydyw yn cael ei ddewis gennych chi neu wedi’i ddyrannu gennym ni, ar unrhyw adeg, os ydych yn ein barn resymol wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau hyn.

Os ydych yn gwybod neu yn amau bod unrhyw un heblaw amdanoch chi yn adnabod eich cod adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith gan ddefnyddio ein tudalen Cysylltwch â Ni.

Hysbysiad Hawlfraint

Rydym ni (neu ein trwyddedwyr) yn berchen ar yr hawlfraint ac unrhyw hawliau eraill ym mhob deunydd ar y Systemau Ar-lein ac eithrio unrhyw ddeunydd Seneddol, delweddau stoc trydydd parti (fel ffotograffau) a deunydd arall fel y nodwyd.

Bydd unrhyw gynnwys rydych chi’n ei uwchlwytho neu’n ffeilio ar y Systemau Ar-lein yn cael ei ystyried yn gyfrinachol lle bo hynny’n briodol. Rydych chi’n cadw’ch holl hawliau perchnogaeth yn eich cynnwys. Byddwn yn trin yr holl wybodaeth gyfrinachol yn briodol a dim ond yn ei defnyddio at y dibenion y mae’n cael ei darparu ar eu cyfer.

Mae unrhyw hawliau nad ydynt yn cael eu rhoi yn benodol yn y telerau hyn wedi’u cadw.

Bydd unrhyw ailddefnydd o ddeunydd ar y Systemau Ar-lein ac eithrio os ydyw wedi cael ei ganiatáu yn benodol yn yr hysbysiad hawlfraint yma yn cael ei wahardd, oni bai ein bod wedi cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw i ailddefnyddio.

Ni ddylech ddefnyddio data o’r Systemau Ar-lein i ddarparu data feed i unrhyw dabl cymharu nac unrhyw wefan arall heb ein caniatâd ysgrifenedig.

Ymwadiad

Rydym yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth ar y Systemau Ar-lein yn gywir, ond nid ydym yn cynnig unrhyw warant bendant ynghylch ei gywirdeb.

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddifrod (gan gynnwys, heb gyfyngiad, iawndal am golli busnes neu golli elw) sy'n codi mewn contract, camwedd neu fel arall o ddefnyddio neu anallu i ddefnyddio'r Systemau Ar-lein, neu unrhyw ddeunydd sydd wedi ei gynnwys ynddo, neu o unrhyw gamau neu benderfyniadau a gymerwyd o ganlyniad i ddefnyddio'r Systemau Ar-lein neu unrhyw ddeunydd sydd wedi'i gynnwys ynddo.

Bydd rhannau o’r Systemau Ar-lein yn cynnwys deunydd sydd wedi ei yrru i ni gan drydydd partïon. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wall, hepgoriad neu anghywirdeb yn y deunydd hwn.

Byddwn yn ceisio sicrhau bod y Systemau Ar-lein ar gael o fewn oriau gweithredu’r System Ar-lein berthnasol. Ni fyddwn yn atebol os, am unrhyw reswm, nad yw’r Systemau Ar-lein ar gael am unrhyw gyfnod o amser.

Gellir atal mynediad i’r Systemau Ar-lein dros dro neu’n barhaol a heb rybudd.

Efallai y byddwn yn diweddaru ac yn newid y Systemau Ar-lein o bryd i’w gilydd heb rybudd.

Ni fyddwch yn:

  • (i) amharu ar ddiogelwch y Systemau Ar-lein neu geisio cael mynediad heb awdurdod i’r Systemau Ar-lein, data, deunyddiau, gwybodaeth, systemau cyfrifiadurol neu rwydweithiau sy’n gysylltiedig â’r Systemau Ar-lein, trwy hacio, cloddio cyfrinair (password mining) neu unrhyw ddull arall;
  • (ii) cymryd neu geisio unrhyw gamau sydd, yn ôl ein disgresiwn llwyr, yn gosod neu a all osod baich afresymol neu fawr ar y Systemau Ar-lein neu ei seilwaith;
  • (iii) defnyddio neu geisio defnyddio unrhyw “scraper,” “robot,” “bot,” “corryn” “cloddio data” “cod cyfrifiadurol,” neu unrhyw ddyfais, rhaglen, offeryn, algorithm, proses neu fethodoleg awtomataidd arall i gyrchu, caffael, copïo neu fonitro unrhyw ran o'r Systemau Ar-lein, unrhyw ddata neu gynnwys a geir ar neu a gyrchir trwy’r Systemau Ar-lein heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw;
  • (iv) ffugio penawdau neu manipiwleiddio dynodwyr er mwyn cuddio tarddiad unrhyw gynnwys;
  • (v) Cyflwyno firysau, meddalwedd sy’n gallu cymryd drosodd eich cyfrifiadur (Trojans), worms, logic bombs neu unrhyw gynnwys arall sydd yn faleisus neu’n dechnolegol niweidiol yn fwriadol; neu
  • (vi) Ni fyddwch yn gallu gwrthdroi unrhyw gynnwys ar y Systemau Ar-lein.

Rydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl unigolion sy’n gysylltiedig â chi ac sy’n defnyddio’r Systemau Ar-lein yn ymwybodol o’r telerau hyn, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.

Nid ydym yn gallu sicrhau y bydd y Systemau Ar-lein yn ddiogel neu’n rhydd rhag bugs neu firysau.

Rydych chi’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a phlatfform i gael mynediad i’r Systemau Ar-lein. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu firysau eich hun.

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw drydydd partïon rydym yn cysylltu â nhw ar y Systemau Ar-lein. Ni ddylid dehongli unrhyw ddolenni a ddarperir gan drydydd partïon fel cymeradwyaeth gennym ni o’r gwefannau hynny neu’r wybodaeth gysylltiedig y gallwch eu cael arnynt. Nid ydym yn gyfrifol am weithredu unrhyw ddolenni trydydd parti.

Gallwch ddefnyddio’r deunydd a’r dogfennau sydd wedi eu cynnwys yn y Systemau Ar-lein ar gyfer unrhyw ddiben cyfreithlon nad yw wedi’i eithrio fel arall gan y telerau ac amodau hyn.

Er mwyn osgoi amheuaeth, ni chewch ddefnyddio enw, logo neu farc adnabod arall yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, nac unrhyw sefydliad arall sy’n gysylltiedig â’r Systemau Ar-lein at unrhyw ddiben.

Uwchlwytho cynnwys i’r Systemau Ar-lein

Efallai bydd eich defnydd o’r Systemau Ar-lein yn gofyn eich bod yn uwchlwytho deunydd (“Uwchlwytho”).

Bydd rhaid i Uwchlwythiad:

  • fod yn gywir ac yn gyfredol;
  • gydymffurfio â’r gyfraith sy’n gymwys yn y DU ac mewn unrhyw wlad y mae’n cael ei phostio ohoni;
  • beidio â thorri unrhyw eiddo deallusol neu hawliau perchnogol eraill; a
  • beidio â chynnwys cynnwys y gellid ei ddehongli fel rhywbeth annymunol, tramgwyddus neu ddadleuol.

Rydych chi'n gwarantu bod unrhyw Uwchlwythiad yn cydymffurfio â'r telerau hyn, ac rydych chi'n atebol i ni ac yn ein hindemnio am unrhyw doriad o'r warant yma. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefwn o ganlyniad i'ch methiant i sicrhau bod eich uwchlwythiad yn cydymffurfio â'r telerau hyn.

Os ydych am gysylltu â ni mewn perthynas â chynnwys rydych wedi’i uwchlwytho i’r Systemau Ar-lein rydym wedi ei dynnu i lawr, cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein tudalen Cysylltu â Ni.

Torri’r telerau hyn

Os ydym o’r farn bod torri’r telerau hyn wedi digwydd, efallai y byddwn yn cymryd unrhyw gamau sy’n briodol yn ein barn ni, gan gynnwys y camau canlynol:

  • dileu unrhyw wybodaeth a lwythir gennych chi i’r Systemau Ar-lein yn syth, dros dro neu’n barhaol;
  • atal eich mynediad i’r Systemau Ar-lein;
  • unrhyw gamau cyfreithiol angenrheidiol yn eich erbyn; a
  • datgelu unrhyw wybodaeth i awdurdodau gorfodi’r gyfraith fel y teimlwn sy’n rhesymol angenrheidiol neu fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Rydym yn eithrio pob atebolrwydd am unrhyw gamau y gallwn eu cymryd mewn ymateb i’r telerau hyn yn cael eu torri, i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith. Nid yw’r camau y gallwn eu cymryd wedi’u cyfyngu i’r rhai a ddisgrifir uchod, a gallwn gymryd unrhyw gamau eraill yr ydym yn eu hystyried yn rhesymol briodol.

Sut y gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol

Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y nodir yn ein polisi preifatrwydd.

Deddfau pa wlad sy’n berthnasol i unrhyw anghydfodau?

Mae’r telerau hyn, eu pwnc a’u ffurfiad (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn gytundebol) a’r defnydd o’r Systemau Ar-lein yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr. Mae’r ddau ohonom yn cytuno i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Gwrthdaro telerau

I'r graddau mae'r telerau hyn yn gwrthdaro ag unrhyw delerau’r System Ar-lein sy'n benodol i wasanaeth, mae telerau'r System Ar-lein sy'n benodol i'r gwasanaeth yn gynsail.

Telerau sy’n benodol i wasanaeth y System Anfonebu Ar-lein

Mae’r adran hon yn nodi’r rheolau sy’n berthnasol yn ychwanegol i’r telerau hyn wrth ddefnyddio System Anfonebu Ar-lein.

Rydych yn cytuno i gyflwyno data tariff ffioedd drwy’r System Anfonebu Ar-lein (gan gynnwys darparu esboniadau manwl ychwanegol ar gyfer amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn lle bo hynny’n cael ei ysgogi) pan ofynnir i chi wneud hynny. Wrth wneud hynny, rydych yn cadarnhau bod y wybodaeth:

  • yn gywir fel sy’n ofynnol o dan Llawlyfr Our FCA o reolau a chanllawiau; a
  • wedi cael ei adolygu a’i gymeradwyo gan unigolyn profiadol, megis cyfarwyddwr cydymffurfio, cyn cyflwyno.

Rydych yn deall y bydd y wybodaeth y byddwch yn ei ddarparu yn cael ei defnyddio wrth gyfrifo ffioedd ac ardollau blynyddol eich sefydliad.

Rydych yn cytuno i fewngofnodi i’r System Anfonebu Ar-lein pan fyddwn yn anfon e-bost atoch i'ch hysbysu bod trafodion newydd wedi'u codi yn erbyn eich cyfrif (oni bai eich bod wedi dewis derbyn copïau pdf o anfonebau sydd wedi eu hatodi yn eich hysbysiadau e-bost) neu pan ofynnir i chi gyflwyno data tariff ffioedd ar-lein.

Os na allwch ddefnyddio’r System Anfonebu Ar-lein, neu gael mynediad at unrhyw ddeunydd sydd ynddo, mae dal yn ofynnol i chi:

  • setlo’r holl anfonebau a godir yn eich erbyn a hynny erbyn y dyddiad gofynnol;
  • talu unrhyw ordaliadau diweddarach neu unrhyw daliadau eraill os ydych yn setlo’r anfoneb ar ôl y dyddiad sy’n ofynnol gennym ni;
  • cyflwyno data tariff ffioedd pan ofynnir i chi trwy gael ffurflen bapur a’i hanfon atom ar e-bost; a   
  • talu ffi gweinyddu adrodd hwyr os nad ydych yn cyflwyno data tariff ffioedd erbyn y dyddiad gofynnol a bennwyd gennym ni.